{"product_id":"cyfrolau-cenedl-7-dramau-w-j-gruffydd-9780956651693","title":"Cyfrolau Cenedl: 7. Dramâu W. J. Gruffydd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGolygiad newydd gan Dafydd Glyn Jones o ddwy o ddramâu W. J. Gruffydd. Ar ei chanmlwyddiant eleni, 'Beddau'r Proffwydi' - y fwyaf nodedig o'r 'hen ddramâu'? Barned darllenwyr heddiw. Hefyd, 'Dyrchafiad Arall i Gymro' - perthnasol bob amser.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA volume comprising two plays by W. J. Gruffydd: 'Beddau'r Proffwydi' portraying intellectual fickleness, and which claims to be the first play in the Welsh language performed in a theatre, and 'Dyrchafiad Arall i Gymro' portraying tension between self-interest and principle.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780956651693\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780956651693\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfrolau Cenedl: 7. Dramâu W. J. Gruffydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGruffydd, W. J.\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-05-06\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Dafydd Glyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (yn Gymraeg) | EN: Plays, Sketches, Pantomimes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Dramâu (yn Gymraeg) | EN: Plays (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePan gyhoeddwyd Beddau’r Proffwydi (1913) a Dyrchafiad Arall i Gymro (1914) gyntaf, mewn print stremplyd ar bapur trwchus, edrychid arnynt fel pethau go beryglus a heriol. Ar eu newydd wedd yma, rhwng cloriau sgleiniog, diau y’u gwelir yn ddigon dof – ond nid ydynt yn llai diddorol nac arwyddocaol o’r herwydd. Enghreifftiau sydd yma (a’r enghreifftiau mwyaf cymen, gellid dadlau) o ffenomen degawdau agoriadol yr ugeinfed ganrif, sef ‘drama’r gegin Gymreig’. Ni ddylem gael ein camarwain gan eu naturoliaeth ymddangosiadol. Nid dramâu domestig ydynt ond i’r graddau nad oes ynddynt elfennau melodramatig stroclyd megis cyd-ddigwyddiad na chamadnabod na darganfyddiadau annhebygol nac iaith ddyrchafedig. Yn y bôn, nid darlunio darn o fywyd yw eu hamcan ond creu cefndir niwtral a hawdd ei lwyfannu er mwyn mynd i’r afael â’r un ddilema o hyd: y ffin rhwng parchusrwydd cymdeithasol a chydwybod, gan roi prawf yn y broses ar hawl crefydd, magwraeth, ac egwyddorion gwleidyddol i fynnu awdurdod a theyrngarwch. Saif arwyr Gruffydd mewn olyniaeth. Dyna Dai, yn Barn y Brodyr (1914) T. R. Evans, sy’n arwain streic yn y pwll glo a chyhoeddi ei agnosticiaeth, gan ddwyn gwarth ar ei fam a cholli ei ddyweddi yn y fargen. Y gweinidog Mr Harris, yn Ar y Groesffordd (1914) R. G. Berry, sydd am briodi merch y potsiar lleol. Guto, agnostig arall o goliar wedi marw mewn damwain, yn Ble Ma’ Fa? (1913) D. T. Davies, y mae ei weddw’n holi am hynt ei enaid. Wrth ddarllen storïau Emrys Williams ac Ifan Morris, felly, cofier nad Gruffydd a’u creodd ond mudiad yn ei anterth mewn festrïoedd capeli a neuaddau pentref ledled Cymru, yn diwallu angen cynulleidfaoedd am ystyried eu hunaniaeth. Hawdd gwenu’n nawddoglyd arnynt ond, fel y’n hatgoffir yn rhagymadrodd campus Dafydd Glyn Jones, ‘ffenomen gymdeithasol, ddiwylliannol sydd yma, cyfrwng dealltwriaeth cenedl ohoni ei hun, ac mewn rhyw ystyr un o gyfryngau ei pharhad hefyd’.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819081503094,"sku":"9780956651693","price":8.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780956651693_66922585-1ba9-4e32-be92-fd77f21ff998.jpg?v=1790353074","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfrolau-cenedl-7-dramau-w-j-gruffydd-9780956651693","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}