{"product_id":"cyfrolau-cenedl-5-beirniadaeth-john-morris-jones-9780956651655","title":"Cyfrolau Cenedl: 5. Beirniadaeth John Morris-Jones","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDetholiad o weithiau beirniadol y gramadegydd John Morris-Jones, yn cynnwys deg o'i feirniadaethau ar gystadleuaeth yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhagymadrodd ei argraffiad o'r Bardd Cwsc (1898), ei gasgliadau am Orsedd y Beirdd (1911), ei ysgrif yn trafod natur barddoniaeth, 'Swydd y Bardd' (1902) ac adran agoriadol ei gyfrol ar y cynganeddion Cerdd Dafod .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSelected critiques of John Morris-Jones, comprising ten National Eisteddfod chair competition adjudications, the introduction to his edition of Bardd Cwsc (1898), his conclusions on the Gorsedd of Bards (1911), his essay on the nature of poetry, 'Swydd y Bardd' (1902) and the opening section of his volume on Welsh strict-metre poetry Cerdd Dafod (1925).\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780956651655\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780956651655\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfrolau Cenedl: 5. Beirniadaeth John Morris-Jones\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNewydd, Dalen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNon-Stock Item - Ordered on request\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eArchebir yn ôl y galw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-09-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Dafydd Glyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e408 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBydd llawer academydd yn ymddeol er mwyn rhoi ei draed i orffwys, ond nid felly Dafydd Glyn Jones, sydd, os rhywbeth, yn fwy cynhyrchiol wedi ei ymddeoliad nag ydoedd cyn hynny (er gwaethaf ei waith mawr ar Eiriadur yr Academi, wrth gwrs). Gyda Phrifysgol Cymru a’i gwasg mewn tipyn o lanast, penderfynodd gychwyn gwasg newydd ar ei liwt ei hun, sef Dalen Newydd, ac eisoes ymddangosodd chwe chyfrol yn y gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ – ac mae llawer mwy o rai eraill ar y gweill. Nid anelu at gyhoeddi gweithiau ‘poblogaidd’ a wneir, wrth gwrs, ond dwyn i olau dydd weithiau a aeth yn anodd iawn cael gafael arnynt. Dylai pob myfyriwr Cymraeg gwerth ei halen gael yr holl gyfrolau ar ei silff. Am y gyfrol bresennol, mae hi gyda’r ddifyrraf o’r holl ddeunydd. Ceir ynddi ddeg o feirniadaethau John Morris-Jones ar yr awdl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a detholion o nifer o rai eraill. Atgynhyrchir y rhagymadrodd i Y Bardd Cwsc , rhan o Cerdd Dafod , yr erthyglau ar ‘Swydd y Bardd’ a ‘Derwyddiaeth Gorsedd y Beirdd’, ynghyd â detholion o erthyglau eraill. Lawn cyn ddifyrred â gwaith John Morris-Jones ei hun yw rhagymadrodd meistraidd y golygydd, lle dywed bethau megis ‘Syr John Morris-Jones yw’r beirniad llenyddol Cymraeg mwyaf ei ddylanwad a’i awdurdod erioed’ ac ‘mai trwy’r Eisteddfod, yn bennaf oll, yr arferodd ef yr awdudod a’r dylanwad hwn’. Serch hynny, nid yw’n anfeirniadol o bell ffordd, ac y mae’n caniatáu i sylwadau beirniadol Prosser Rhys beth gwirionedd. Yn wir, doniol yw ystyried i John Morris-Jones gyhoeddi ‘Madog’ T. Gwynn Jones yn ei gylchgrawn Y Beirniad , am nad oedd, o bosib, wedi gweld ei hergyd heddychol. Gwaith diddiolch – a dielw, yn sicr – yw cynnal gwasg academaidd yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond rhaid dweud bod cyfrolau Dalen Newydd yn plesio’r deall a’r llygad fel ei gilydd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819081437558,"sku":"9780956651655","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780956651655.jpg?v=1790347627","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfrolau-cenedl-5-beirniadaeth-john-morris-jones-9780956651655","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}