{"product_id":"cyfrolau-cenedl-3-prydnawngwaith-y-cymry-a-gweithiau-eraill-gan-william-williams-9780956651631","title":"Cyfrolau Cenedl: 3. Prydnawngwaith y Cymry a Gweithiau Eraill gan William Williams","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePrydnawngwaith y Cymry (1822) oedd y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf i drafod Oes y Tywysogion fel pennod glir o hanes Cymru. Llawlyfr cryno yw hwn, yn syml ei gynllun, ond gyda theimladau cryfion ei awdur - a'i ragfarnau hefyd - yn rhoi bywyd mewn aml dudalen.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePrydnawngwaith y Cymry (1822) was the first Welsh-language book to discuss the Age of the Princes as a distinct episode in Welsh history. This is a concise book, simple in design, but in which the opinions - and prejudices - of the author give life to the pages.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780956651631\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780956651631\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfrolau Cenedl: 3. Prydnawngwaith y Cymry a Gweithiau Eraill gan William Williams\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, William\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNon-Stock Item - Ordered on request\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eArchebir yn ôl y galw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-09-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Dafydd Glyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e174 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHon yw’r drydedd gyfrol yn y gyfres Cyfrolau Cenedl sy’n ‘dwyn i olau dydd weithiau diddorol a fu un ai allan o brint neu ar goll neu yn anghofiedig.’ Eisoes cafwyd cofiant i William Williams (1738-1817) gan olygydd y gyfrol hon, Dafydd Glyn Jones, sef Un o Wŷr y Medra (Gwasg Gee, 1999), lle neilltuwyd pennod i’r gwaith hwn a welodd olau dydd gyntaf yn 1822 wedi marwolaeth yr awdur. Yn y gwaith fe drafodir Oes y Tywysogion, cyfnod y tybiai’r awdur iddo gael ei esgeuluso gan haneswyr blaenorol. Beth bynnag am gywirdeb ffeithiol a hanesyddol y gwaith, fe ysgrifennwyd yr hanes gyda brwdfrydedd ac afiaith cenedlaetholgar. Ceir adran unigol ar y gwahanol dywysogion a hynny’n gronolegol gan gynnig dyddiadau i’r ysgarmesoedd a fu rhwng y Cymry ar y naill law a’r Saeson, y Gwyddelod, a’r Daniaid ar y llaw arall. Yn anffodus nid yw’r ymrafael yn gyfyngedig i rai anghyfiaith gan fod yr ymladd yn aml rhwng y tywysogion Cymreig a’i gilydd. Ceir ambell gyfeiriad diddorol at ddigwyddiadau’r cyfnod oddi ar faes y frwydr, fel ‘haf tra gwresog, a phla erchyll’ 958, a’r pla o locustiaid a fu yn Iwerddon yn 897. Yn ogystal â’r Prydnawngwaith gwelwyd yn dda i gyhoeddi pum ysgrif gan William Williams ynghyd â phump ar hugain o gerddi o’i waith. Mae’r ysgrifau yn dadlennu cyffyrddiad yr artist geiriau. Wrth ddisgrifio’r misoedd, er enghraifft, mae’n eu cyffelybu i blentyn ar ei dyfiant, ‘Ionawr. Sydd fel baban ar arffed, heb na gwres na nerth, na moddion i sirioli nac i gynnal y creadur.’ Ymhlith y cerddi ceir canu telynegol, baledol ei naws, rhai englynion a darnau eraill ar y mesur Tri Thrawiad. O ran testun mae’r cerddi yn nodweddiadol o’r ddeunawfed ganrif yn sôn am Galan Mai a blwyddyn newydd, am Giwpid a Brenhines Ffrainc. Rhaid diolch i Dafydd Glyn Jones am olygu’r gwaith hwn gyda graen, ac am ein hailgyflwyno i weithiau bywiog a lliwgar William Williams, Llandygái. Mae’r golygydd i’w ganmol hefyd am ei fenter yn sefydlu Dalen Newydd er mwyn ein cyflwyno i lawer o olud llenyddol ein gorffennol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819081208182,"sku":"9780956651631","price":10.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780956651631.jpg?v=1790347622","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfrolau-cenedl-3-prydnawngwaith-y-cymry-a-gweithiau-eraill-gan-william-williams-9780956651631","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}