{"product_id":"cyfrolau-cenedl-10-y-dreflan-ei-phobl-a-i-phethau-9780957560932","title":"Cyfrolau Cenedl: 10. y Dreflan - Ei Phobl a'i Phethau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGolygiad newydd Robert Rhys o nofel wreiddiol gyntaf Daniel Owen a gyhoeddwyd fesul pennod yn Y Drysorfa yn ystod 1879-80. Cyflwynir cymeriadau'r Dreflan gyda dychan a doniolwch, ynghyd â'r sylwgarwch ar y natur ddynol a oedd mor nodweddiadol o'r awdur. Cynhwysir hefyd ragymadrodd, nodiadau a geirfa ddefnyddiol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRobert Rhys's new edition of Daniel Owen's first original novel which was published in chapters in Y Drysorfa during 1879-80. The characters of the Dreflan are presented with satire and humour, together with the observation on human nature which was characteristic of the author. An introduction, notes and useful glossary are also included.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780957560932\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780957560932\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfrolau Cenedl: 10. y Dreflan - Ei Phobl a'i Phethau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOwen, Daniel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£15.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNon-Stock Item - Ordered on request\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eArchebir yn ôl y galw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-10-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRhys, Robert\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e266 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 148 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma’r ddegfed gyfrol yng nghyfres Clasuron Cenedl ac yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym, yr argraffiad cyntaf o’r Dreflan ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gweledigaeth fawr Dafydd Glyn Jones yw’r gyfres, a Robert Rhys, ein pennaf awdurdod ar Daniel Owen, o bosib, yw golygydd y nofel. Aeth rhai blynyddoedd heibio bellach er pan olygwyd tair nofel arall Daniel Owen gan E. G. Millward. Hon, felly, fel y dywedir, oedd y nofel yr oedd pawb yn ei thrafod a neb yn ei gweld. Mae’n werth gofyn y cwestiwn pam roedd un o greadigaethau llenyddol pwysicaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi cael ei hanwybyddu cyhyd? Gwir fod modd cael gafael ar gopïau mewn siopau llyfrau ail-law. Yn anffodus, mae hynny yr un mor wir am lawer o glasuron eraill y Gymraeg. Yn sicr, nid Y Dreflan yw’r unig ddarn o waith i ddioddef y dynged hon. Diolch, felly, fod pobl fel Dafydd Glyn Jones ar gael i gywiro’r cam. Cyflawnir cymwynas debyg gan Wasg Honno, sy’n cynnig i ni argraffiadau newydd o weithiau merched Cymru. Mae’r argraffiad newydd hwn yn cynnwys rhagymadrodd gwerthfawr gan Robert Rhys sydd nid yn unig yn olrhain hanes y nofel ond yn egluro hefyd sut yr aeth ati i olygu’r gwaith. Ceir nodiadau yn y cefn sy’n rhoi eglurhad ar rai o’r cyfeiriadau hanesyddol ac ysgrythurol sy’n britho’r nofel ac a allai fod yn ddieithr i ni heddiw. Rhoddir sylw hefyd i’r eirfa; geiriau fel 'budrogen' (slwt), 'egwyddorwas' (prentis) a 'tantro' (dweud y drefn). Ceir llyfryddiaeth ddethol sy’n trafod bywyd a gwaith Daniel Owen ac fe gynhwysir hefyd ragymadrodd diddorol Roger Edwards i’r argraffiad cyntaf. Bywyd crefyddol y Dreflan sy’n mynd â bryd yr awdur yn bennaf ond fe’n cyflwynir hefyd i gymeriadau brith Buarth Jenkins. Fel gyda nofelau eraill Daniel Owen, ei gymeriadau lliwgar sydd yn denu ein sylw gyntaf. Yn y nofel hon deuwn i adnabod Benjamin a Beca Prys, John Aelod Jones, Jeremeiah Jenkins, Pitar Pugh a Mrs Enoch Jones – rhai ohonynt yn bobl rinweddol tu hwnt ac un arall ohonynt yn rhoi rhagflas i ni o Capten Trefor. Efallai na fydd crefyddoldeb y gyfrol at ddant pawb heddiw (tybed ai dyna pam y bu allan o brint cyhyd?). Ond ni ddylai neb adael i hyn eu rhwystro rhag darllen y nofel. Mae eironi, hiwmor a dychan Daniel Owen yn brigo i’r wyneb dro ar ôl tro, a’i ddiddordeb yn y natur ddynol (a’i gydymdeimlad gyda phobl) i’w weld ar bob tudalen. Diddorol hefyd i ni heddiw (a ninnau newydd brofi’r ddadl fu ynglŷn â'r defnydd o’r Saesneg yn awdl Eisteddfod Genedlaethol 2014) yw’r defnydd a wneir o’r iaith fain gan Daniel Owen yn y nofel hon. Yr un mor ddiddorol yw’r sylw a rydd yr awdur i le a statws y Gymraeg yn y gymdeithas y mae'n byw ynddi. Roedd hi'n hen, hen bryd i'r nofel hon weld golau dydd unwaith eto, a diolch i Dafydd Glyn Jones a Robert Rhys am sicrhau bod hynny'n digwydd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819090547062,"sku":"9780957560932","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780957560932.jpg?v=1790347695","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfrolau-cenedl-10-y-dreflan-ei-phobl-a-i-phethau-9780957560932","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}