{"product_id":"cyfres-yr-onnen-y-bancsi-bach-9781847716965","title":"Cyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Owen yn artist dawnus, sy'n creu lluniau graffiti ar un o waliau'r dre yn y dirgel, ganol nos. Ond mae 'na gysylltiad rhwng y lluniau â phobl ddieithr sy'n cyrraedd yr ysgol ... Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2013.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBanksy was Owen's hero. That mythical man who created graffiti during the night but, by morning, the artist had disappeared, leaving only the art. Why couldn't Owen disappear like his hero? Create his art, then disappear. Reprint. First published in 2013.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847716965\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847716965\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres yr Onnen: Y Bancsi Bach\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Tudur Dylan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-09-07\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e194 × 130 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePrifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007, sydd yn athro Cymraeg yn Ysgol y Strade, Llanelli.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel nad yw fawr hwy na stori fer go lew ydi hon. Ysbryd a natur stori fer sydd iddi o ran cyfansoddiad a chyda thro dyfeisgar yn y gynffon. Trawodd yr awdur ar syniad canolog rhagorol. Y gamp wedyn, wrth gwrs, fyddai datblygu'r syniad ymhellach, a chynllunio sut i gau pen y mwdwl. Llwydda Tudur Dylan Jones, gan beri i ddarllenydd oedi ar y dudalen olaf a dyfalu awyddocâd y digwyddiadau yn hytrach na chau’r llyfr a symud yn ddifwstwr at rywbeth arall. Cyfres i ddarllenwyr ifainc yw Cyfres yr Onnen ond byddai darllenwyr hŷn hefyd yn cael blas ar Y Bancsi Bach . Cyfeiria'r 'Bancsi' sydd yn y teitl at Banksy, yr arlunydd graffiti dadleuol a dylanwadol o Fryste, a'n hargyhoeddodd ni ers dechrau’r nawdegau fod y math yma o arlunio ar waliau yn gelfyddyd yn ogystal â bod yn sylwebaeth gymdeithasol rymus. Ymddangosodd ei ddelweddau ar furiau cyn belled â’r West Bank gan ennill edmygedd uchelwyr selebwlad megis Pitt a Jolie – ac Owen, bachgen ysgol a phrif gymeriad y nofel hon, sydd â’i fryd ar efelychu proffwyd y muriau. Yn y bennod agoriadol darlunnir ef yn sleifio o’i lofft liw nos i drawsnewid wal yn y dref lle mae’n byw. Fo ydi'r ‘ Bancsi Bach’. Ond er ei fod yn arlunydd penigamp, bachgen mewnblyg, unig ac anhapus ydi Owen ac yn un sy'n cael ei fwlio ar fuarth yr ysgol. Nofel am fwlio ac am ymwneud disgyblion ysgol â’i gilydd a meddylfryd y pac neu lwyth yw hon. Mae Owen yn wrthodedig gan bac ei ysgol, a hynny dan ddylanwad Hedd, y pen bwli. Annheg mewn adolygiad fyddai manylu ar union arwyddocâd, effaith a chanlyniad graffiti Owen rhag i hyn sbwylio’r stori, ond mae’n deg dweud i Tudur Dylan Jones daro ar syniad gwefreiddiol sy’n cael ei ddatgelu’n raddol. Mae’r dweud, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan un â sicrwydd o’i Gymraeg, yn rhwydd ac yn ddidrafferth, er efallai fod rhywfaint gormod o din-droi ar adegau ac y dylid fod wedi clatsio ’mlaen damaid. Ac yntau’n athro ei hun, ni all rhywun osgoi ymddiddori ym mhortread Tudur Dylan Jones o'r athrawon yn y nofel – a’i chael yn amhosib peidio â dyfalu beth fydd ei gyd-athrawon yn y byd go iawn yn ei wneud o’r darlunio digon beirniadol yn y nofel hon. Gobeithio na fydd neb yn yr un ysgol ag ef yn meddwl ei fod yn adnabod ei hun!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820835049846,"sku":"9781847716965","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847716965_ae8f91ee-2abb-462f-bbe9-76fe03e87b27.jpg?v=1790361099","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-yr-onnen-y-bancsi-bach-9781847716965","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}