{"product_id":"cyfres-yr-onnen-sgrech-y-mor-9781847717429","title":"Cyfres yr Onnen: Sgrech y Môr","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori llawn antur yn troi o gwmpas bachgen o'r enw Sion. Mae'n mynd i aros gyda'i fodryb yn ystod gwyliau'r haf ac o dipyn i beth, mae Sion yn darganfod ei fod yn hanu o deulu'r sipsiwn Cymreig.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAdventure story about a boy named Siôn. He goes to stay with his aunt during his summer holidays and gradually learns that he is descended from the Welsh gypsies.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847717429\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847717429\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres yr Onnen: Sgrech y Môr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWiliam, Casia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-02-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r gwyliau haf yn llawn anturiaethau, yn tyden? A thra mae gweddill dosbarth Siôn Watcins yn paratoi i fynd dramor, mae o’n cael ei anfon at Anti Beth yn Rhos y Grug, a doedd o ddim wedi dyfalu am un eiliad y byddai ei wyliau yn llawn sipsiwn, môr-ladron a ffrindiau newydd sbon. Dyma nofel gyntaf Casia Wyn a dydi hi ddim yn eich siomi. Does dim yn well nag antur draddodiadol i fynd â ni i fyd arall, ond wrth i stori Siôn gael ei datgelu, mae’n darganfod mwy ymysg yr ogofâu a’r twneli nag a dybiai i ddechrau. Mae’n dysgu llawer iawn am hanes ei deulu a’i wreiddiau fel sipsiwn ac awn i gyfnod amser arall wrth i Fflec, sydd yn dal i fyw mewn trol, adrodd straeon am ei berthnasau. Mae modd cydymdeimlo â Siôn o’r cychwyn cyntaf, wrth iddo frwydro yn erbyn ei lys-dad, Seimon, ac ymdopi â marwolaeth ei dad. Ymunwn ag ef yn ei ddihangfa ddiddorol dros yr haf arbennig hwn. Dringo coed, camu i ogofâu dirgel wrth y môr, dod ar draws iaith ddieithr, trafferth yn y tywyllwch, stormydd mellt a tharanau a fflyd o gymeriadau difyr – mae’r rhain oll yn peri i ni holi: pryd mae’r antur nesaf?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820836524406,"sku":"9781847717429","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847717429_34795515-54d6-48e6-ac17-abb7d432aae8.jpg?v=1790361119","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-yr-onnen-sgrech-y-mor-9781847717429","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}