{"product_id":"cyfres-yr-onnen-prism-9781847713452","title":"Cyfres yr Onnen: Prism","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma bedwaredd nofel Manon Steffan Ros yng nghyfres yr Onnen. Enillodd Trwy'r Tonnau (dilyniant i Trwy'r Darlun ) wobr Tir na nOg 2010. Mae Prism yn dilyn hynt a helynt Twm a Math sy'n dianc o'u cartref ac yn mynd i deithio o amgylch Cymru, gan aros ym Mhwllheli, Aberdaron, Porthmadog, Aberystwyth, Llangrannog a Thyddewi. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2012.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTwm and Math are due to visit their father in his Cardiff flat during the summer holidays. Math is disabled and the father is unable to come to terms with that. The father sends his ex-wife an e-mail to explain that he can't have the children, after all. Twm accidentally finds the message and deletes it before his mother reads it. Tir na n-Og Award winner 2012.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847713452\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847713452\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres yr Onnen: Prism\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRos, Manon Steffan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-12-09\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e208 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNOFEL NEWYDD I FACHU DYCHYMYG BECHGYN Mae nofel newydd Manon Steffan Ros, Prism , yn un a ysgrifennwyd mewn ymdrech arbennig i ddenu mwy o fechgyn ifanc i ddarllen nofelau Cymraeg. “’Dwi’n meddwl ei bod hi'n bwysig i lenyddiaeth Cymraeg gael ei ’sgwennu i hogia' yn eu harddegau,” eglura’r awdures boblogaidd, “oherwydd does ’na ddim llawer o nofelau ar eu cyfer.” Mae’r nofel yn ymgymryd â phwnc heriol, sef y berthynas unigryw a fodolai rhwng bachgen o Gaernarfon, Twm, a’i frawd ieuengaf, Math, sy’n dioddef o anabledd emosiynol difrifol. Yn dilyn anallu tad y brodyr i ddelio ag anabledd Math, mae Twm yn penderfynu rhoi hoe i’w fam sengl, sydd am fynd i Lerpwl yn ystod gwyliau’r haf, drwy ei thwyllo a dianc â’i frawd i wersylla i gorneli Cymru. Nid oes gan Manon brofiad personol uniongyrchol o blant sy’n dioddef o anabledd emosiynol. Fe wyddai cyn ymchwilio ar gyfer y nofel, serch hynny, pa mor wahanol gall dau frawd fod, a’r elfen amddiffynnol sydd gan bob brawd a chwaer tuag at yr ieuaf yn y nyth. Credai Manon y bydd y nofel yn apelio at oedolion yn ogystal â phlant a phobl ifanc, o ganlyniad i’r amryw haenau sy’n bodoli ym mywyd teuluol y prif gymeriadau yn sgil cyflwr emosiynol y mab ieuengaf. Fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu’r nofel wrth weld y datblygiad ym mherthynas ei meibion ifanc ei hunan, ac o gofio’r berthynas glos a fodolai rhyngddi hi a’i chwaer, y gantores Lleuwen Steffan, ers yn ifanc. Meddai Manon: “Yn amlwg, mae'r ffaith mai dau o feibion sydd gen i yn ddylanwad ar y nofel… a phan o'n i'n tyfu, roedd fy chwaer a minnau yn agos iawn – ’da ni’n dal i fod, a dweud y gwir - ac mae o'n ddifyr i mi sut ma' gwaed yn clymu pobol wrth ei gilydd. Mae fy chwaer a ’mrawd a minnau yn wahanol iawn i’n gilydd, ac eto ’da ni'n agos iawn.” Yn deillio o hoffter yr awdures o deithio, ysgogwyd hi i ysgrifennu am ambell un o’i hoff leoliadau yng Nghymru wrth anfon y brodyr ar daith o dros 200 milltir i lawr arfordir gorllewinol Cymru. O Gaernarfon i Bwllheli, Aberdaron i Borthmadog, traeth Tonfannau i Aberystwyth, ac yna i Langrannog cyn cyrraedd Tyddewi. Ymhelaetha’r awdures: “Ro’n i’n awyddus i ’sgwennu rhywbeth Cymreig yn ogystal â Chymraeg - rhywbeth sy'n gysylltiedig efo’r wlad ei hun. Dyna pam ’dwi'n eu hanfon nhw i rai o’r llefydd ’dwi'n eu caru yn y wlad... Ni fydd llawer o'r bobl ifanc sy'n darllen y llyfr wedi bod yn y llefydd yma, a gall hynny eu hysgogi i ymweld â’r lleoliadau.” Dyma bedwaredd nofel yr awdures boblogaidd ar gyfer yr arddegau – a’r nofel gorau hyd yma, yn ei thyb hi. Mae’r awdures ifanc o Bennal, ger Machynlleth, eisoes wedi ennill Gwobr Tir na n’Og 2010 am ‘Trwy’r Tonnau’, nofel arall i blant a phobl ifanc, yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl 2010 am ei nofel gyntaf i oedolion, ‘Fel Aderyn’.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820824236406,"sku":"9781847713452","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847713452_b8c7945d-1f60-4769-ab5d-21b891a64dc6.jpg?v=1790360973","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-yr-onnen-prism-9781847713452","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}