{"product_id":"cyfres-yr-onnen-cam-wrth-gam-9781847718396","title":"Cyfres yr Onnen: Cam wrth Gam","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori deimladwy am berthynas agos dau efaill. Ar ôl damwain beic erchyll mae Cain yn ysgrifennu dyddiadur i helpu Lleu i gofio am ei fywyd cyn y ddamwain.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA tender and poignant story about the close relationship of twins. After a dreadful biking accident, Cain begins to write a diary mapping Lleu's life before the accident.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847718396\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847718396\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres yr Onnen: Cam wrth Gam\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlwyd, Mared\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-04-02\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e224 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCam wrth gam y mae gwella wedi damwain ddifrifol, ac olrhain y camau hyn yn hanes bachgen un ar ddeg oed o’r enw Lleu a wna ail nofel Mared Llwyd. Mae Lleu’n gyffro i gyd yn y bennod agoriadol wrth fynd gyda Cain, ei efeilles, ar eu beiciau newydd sbon ar ddydd Calan. Ond buan y trosglwyddir y naratif i lais Cain wrth iddi gadw cofnod yn ei dyddiadur o wellhad poenus ac araf Lleu yn yr ysbyty wedi iddo gael i daro gan gar a dioddef niwed i’w ymennydd. Darllenwn am ei air cyntaf, amdano'n agor ei lygaid, yn gadael yr Uned Gofal Dwys, dysgu bwydo’i hun, y ffisoatherapi, y therapi iaith a lleferydd, ac ati. Darlunir effaith y ddamwain ar y teulu cyfan – ar y rhieni, ar y ferch sydd yn cyfnewid rôl â’i hefaill a oedd wastad yn fwy hyderus na hi, ac ar y claf ei hun. Hoffais y syniad o’r cof fel albwm lluniau gwag sydd angen cael ei ail-lenwi fesul llun, a cheir yma hiwmor hefyd wrth i Cain fwrw ati i lenwi’r albwm lluniau, a straffaglio gyda’r broses ysgrifennu. Gwych o beth yw cyflwyno strwythur arbrofol i ddarllenwyr oedran cynradd. Mae’r amrywiaeth o leisiau yn creu portread cynnil o frawd a chwaer, ac ymdrechion yr heddlu i ddod o hyd i’r gyrrwr yn gwau trwy’r cwbl, gan greu nofel afaelgar ac eang ei hapêl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820837474678,"sku":"9781847718396","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847718396_2bb7c209-a2c2-4f60-82d1-987f5d71e22d.jpg?v=1790361136","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-yr-onnen-cam-wrth-gam-9781847718396","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}