{"product_id":"cyfres-yma-yr-ynys-9781784615031","title":"Cyfres Yma: Yr Ynys","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau hŷn. Mae Gwawr a Cai yn paratoi ar gyfer taith yn ôl i'r Henwlad er mwyn darganfod mwy am fywyd eu hynafiaid cyn ffrwydriad dinistriol y Diwedd Mawr a gafodd effaith tyngedfennol ar y byd. Bydd nofelau 2 a 3 yn cael eu cyhoeddi yn 2018 a 2019.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe first title in a trilogy for older teenagers. Gwawr and Cai prepare to journey back to the Henwlad where they hope to learn about the lives of their ancestors before a destructive explosion which had a fateful effect on the world. The second and third titles will appear in 2018 and 2019.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784615031\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784615031\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Yma: Yr Ynys\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Lleucu\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-11-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHanes, gwleidyddiaeth, gwrthdaro, heriau llencyndod, a phlethwaith o themâu oesol – dyna gynhwysion y nofel afaelgar hon o waith Lleucu Roberts, y nofel gyntaf mewn trioleg. Stori wedi’i gosod yn glyfar iawn yn y dyfodol yw Yma: Yr Ynys . Disgrifia gymdeithas ôl-apocalyptig unigryw ganrif wedi i griw o 49 o bobl fynd i guddio mewn ogof i osgoi’r Diwedd Mawr – y bomiau niwclear a ddaeth yn agos i ddinistrio bywyd ar y Ddaear yn 2030. Drwy ddilyn helyntion dau rebel direidus pymtheg oed – Cai a Gwawr – ceir portread o’r Ynys unigryw, gyntefig ei naws. Ochr yn ochr â hyn ceir ôl-fflachiadau o fywyd ganrif a mwy ynghynt, trwy gyfrwng Dyddiadur Mam Un, sylfaenydd bywyd ar yr Ynys, ac un sy’n cael ei haddoli gan yr ynyswyr ar sail geiriau ei Dyddiadur. Ynddo, ceir disgrifiadau o draddodiadau a diwylliant Cymru, ochr yn ochr â’r paratoadau ymarferol a gwyddonol a wnaethpwyd ymlaen llaw yn yr ogofâu a’r twneli er mwyn gallu sefydlu cymdeithas yr Ynys. Mae yna dinc proffwydol digon brawychus i’r nofel gyda’r cyfeiriadau at wleidyddiaeth y byd cyn i’r bomiau niwclear daro – byd o gweryla cas rhwng gwledydd, a chyfnod, yn benodol 2016, pan ‘fu farw gwirionedd’. Ceir cyfeiriadau cyson hefyd at gysgod canser, sydd â’i grafangau’n dal i dagu a difa bywyd. Pererindod criw bychan o ynyswyr – a Cai a Gwawr yn eu plith – yn ôl i Gymru, gwlad enedigol Rhian, Mam Un, ac i Aberystwyth, y dref lle magwyd hi, yw craidd y nofel. Dyma daith o ddarganfod yn ôl i fyd wedi’r gaeaf niwclear, taith sy’n dwyn i gof bererindod yr ymfudwyr cyntaf i Batagonia ar long y Mimosa . Yn naturiol, gan mai’r gyfrol gyntaf o drioleg yw’r nofel yma, hau hadau ar gyfer anturiaethau’r criw y mae Yma: Yr Ynys . O ran arddull, mae’r iaith yn gyhyrog a’r ysgrifennu’n grefftus ond cyffyrddus iawn. Fe ellid dadlau bod iaith Lleucu Roberts yn heriol ar adegau, ond heriol mewn ffordd dyner a gofalus, ffordd sy’n cyfoethogi’r dweud ac yn hybu’r stori mewn modd hynod effeithiol. Heb os, mae’r nofel hon yn argoeli’n dda ar gyfer gweddill y drioleg.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819939271030,"sku":"9781784615031","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784615031_264ada2f-fae2-47e7-ac44-ee0e5fd91bc8.jpg?v=1790354097","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-yma-yr-ynys-9781784615031","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}