{"product_id":"cyfres-yma-afallon-9781784617097","title":"Cyfres Yma: Afallon","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma nofel olaf trioleg gyffrous Lleucu Roberts sydd wedi ei gosod yn Aberystwyth ôl-apocalyptaidd yn 2141. Pan mae rhai'n cael eu cipio o Gymru, i ble maen nhw'n mynd? Ar yr wyneb mae'r lle fel Afallon ond mae themâu dwys ynddi – rôl merched mewn cymdeithas, trin pobol sydd yn 'wahanol', rhyddid a chaethiwed, yn ogystal ag elfennau o 'Big Brother' a 'The Handmaiden's Tale'.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis is the final title in a trilogy by Lleucu Roberts set in a post-apocalyptic Aberystwyth in 2141. When some people are snatched from Wales, where do they go? Intense themes lie under an idyllic surface: women's role in society, the treatment of people who are 'different', freedom and captivity, together with elements of 'Big Brother' and 'The Handmaiden's Tale'.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784617097\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784617097\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Yma: Afallon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Lleucu\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-03-12\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e192 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO’r frawddeg gyntaf un, mae Lleucu Roberts yn llwyddo i ddal sylw’r darllenydd, ac mae tensiwn a chyffro yn cydio ynom yn syth. Llwydda’r awdur i gadw’r cyffro hwn drwy’r gyfrol gyfan, ac mae'r darllenydd yn awchu am fwy wrth gyrraedd diwedd pob pennod. Tybed beth fydd yn digwydd nesaf? Dyna’r cwestiwn sy’n dod i’r meddwl yn gyson wrth ddarllen. Afallon yw’r drydedd gyfrol yn nhrioleg Yma Lleucu Roberts, cyfres sy’n ein trosglwyddo i gymdeithas ôl-apocalyptaidd unigryw. Adroddir hanes dau griw gwahanol o bobl – y Niaid a’r Ynyswyr – sydd wedi byw cyhyd ar wahân gan ddatblygu mewn ffyrdd hollol wahanol, cyn ailgyfarfod yng Nghymru flynyddoedd maith yn ddiweddarach a cheisio cyd-fyw yn llwyddiannus. Mae’r nofel wedi’i gosod yn y flwyddyn 2141, mewn cyfnod yn dilyn annibendod mawr, ac yn hynny o beth mae’n gyfres amserol iawn wrth i gwestiynau am y modd rydym yn byw ein bywydau, gan beidio â gofalu’n ddigonol am ein hamgylchedd gael sylw cynyddol yn y byd sydd ohoni. Mae’r gyfres yn gyfle arbennig i ddychmygu’r hyn a allwn fod yn ei wynebu yn y dyfodol agos os na newidiwn ein ffordd o fyw. Yn ogystal â’r ddau griw yma yn Afallon, cawn ein taflu i fyd newydd arall, gan ddysgu sut mae criw ychwanegol o bobl wedi datblygu dulliau unigryw o fyw a sicrhau dyfodol i’r llinach. Ar yr olwg gyntaf, dyma nefoedd ar y ddaear. Ond, fel gydag unrhyw fodolaeth, mae sialensau i’w hwynebu a’u goresgyn yma hefyd, a chaiff y cymeriadau eu herio’n foesol wrth ddygymod â hwy. Dyma gyfrol sy’n wledd i’r dychymyg. Mae wedi’i gosod yn y dyfodol, ac mae’r dyfodol hwnnw yn gybolfa hynod ddiddorol a chwareus. Mae yma gymeriad sy’n cael ei ddisgrifio fel babi-dyn (oedolyn sy’n ymddwyn fel babi wedi’i sbwylio), a chymeriad pwysig arall sy’n ferch ac yn fachgen – dau gymeriad sy’n herio’r hyn a geid mewn cyfrolau traddodiadol. Ceir yma amrywiaeth eang o themâu oesol a chyfoes hefyd – cariad, gwrthdaro, natur, cynaliadwyedd, bwlio, trais rhywiol, rhywiaeth – a dim ond enwi rhai. Er cynifer y themâu y cyffyrddir â hwy, fe’u plethir yn ddestlus i’r stori, heb deimlo’n drwm na thynnu sylw’n ormodol. O ran arddull, mae’r iaith yn gyfoethog a’r disgrifiadau’n gywrain a chrefftus, sy’n bleser i’w darllen. Heb os, dyma nofel gwerth chweil i gloi’r gyfres.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820002218358,"sku":"9781784617097","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784617097_71b77288-cda3-4384-a1a6-2678d36766b7.jpg?v=1790354208","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-yma-afallon-9781784617097","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}