{"product_id":"cyfres-y-melanai-efa-9781784615024","title":"Cyfres y Melanai: Efa","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melanai ond mae hi'n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa yn brwydro yn erbyn ei thynged ei hun. Bydd nofel 2 a 3 yn cael eu cyhoeddi yn 2018 a 2019.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe first title in a trilogy for the early teens. Efa is the queen -elect of Melanai, but does not wish to yield to following old customs, which include murdering her mother, the queen, when she is 16 years old. In this story, we follow Efa as she struggles against her own destiny. The second and third titles will be published in 2018 and 2019 respectively.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784615024\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784615024\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres y Melanai: Efa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwanas, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-11-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e197 × 132 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r nofel fer hon yn dilyn bywyd brenhines sy’n dod i delerau gyda’i gobeithion wrth iddi dyfu’n ddynes ifanc. Mae’r iaith a ddefnyddir drwy’r gyfrol yn peri i’r darllenydd gydymdeimlo â’r siwrnai emosiynol sy’n wynebu’r frenhines Efa. Mae Bethan Gwanas yn defnyddio perthynas y prif gymeriad, Efa, â’i ffrindiau i ddangos datblygiad cymeriad wrth i’r nofel fynd rhagddi ac wrth i sefyllfa Efa a’i ffrindiau fynd yn fwy bregus. Dwi’n hoff o’r ffordd y mae’r nofel wedi’i gosod mewn cyfnod anarferol, sydd yn sioc i’r darllenydd wrth i’r cymeriadau ddatblygu. Mae’r cyfnod, a beirniadaeth y cymeriadau o’n cenhedlaeth ni, yn codi cwestiynau ynglŷn â’r modd yr ydyn ni’n trin y Ddaear a’r bywyd gwyllt sydd o'n cwmpas. Mae Bethan Gwanas wedi llwyddo i ysgrifennu nofel sydd â menywod pwerus yn ganolbwynt iddi, peth anarferol mewn nofelau Cymraeg, yn enwedig y rheini sy’n canolbwyntio ar frwydro a rhamant. Mae’r nofel yn normaleiddio menywod cryf a’u sgiliau brwydro ac rwy’n tybio y bydd iddi apêl arbennig i ferched ifanc yn eu harddegau. Mae fel pe bai’n rymusol i ferched yn gyffredinol. Er fy mod yn teimlo bod y nofel wedi’i hanelu at rai iau na mi (sef at rai yn eu harddegau), ces gymaint o fwynhad fel y bu i mi ei rhoi i ffrind arall a gafodd yr un mwynhad â minnau. Mae elfennau mor annisgwyl ac anghyffredin i’r nofel fel y bûm yn meddwl am y stori yn hir ar ôl ei gorffen. Gan i ddiwedd y nofel orffen mor sydyn rwyf wir yn gobeithio mai'r gyntaf mewn cyfres yw hon. Rwy’n ysu i wybod mwy am y cymeriadau a beth ddaw o Melania, ei bradychwyr a’r rheini sydd yn ei rheoli.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819936715126,"sku":"9781784615024","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784615024_9193d576-54d1-4ca3-a59a-9cd5ab91da4e.jpg?v=1790354095","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-y-melanai-efa-9781784615024","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}