{"product_id":"cyfres-y-dderwen-y-ddinas-ar-ymyl-y-byd-9781847712127","title":"Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTu fewn i furiau'r Ddinas mae milwyr creulon, dynion busnes llwgr, Ceidwad hollbresennol, merch â marc dirgel ar ei hysgwydd a chyfrinachau'r awdurdodau. Mae'r Argyfwng a'r Haint wedi gadael eu hôl ac wedi troi natur ben i waered. Nofel ddychmygus i bobl ifainc ac oedolion yng Nghyfres y Dderwen gan awdur Dial yr Hanner Brawd a Talu'r Pris .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWithin the City walls there are cruel soldiers, corrupt businessmen, an ever-present Keeper, a girl with a secret mark on her shoulder and the secrets of the authorities. The Crisis and the Disease have left their mark and turned nature up-side-down. An imaginative novel for teenagers and adults in the Cyfres y Dderwen series by the author of Dial yr Hanner Brawd .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847712127\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847712127\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eVittle, Arwel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-04-29\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e176 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 194 mm; depth 13 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Arwel Vittle sy’n byw yn Llanwnda ger Caernarfon yn gweithio fel cyfieithydd i gwmni a-pedwar. Hon yw ei bedwaredd nofel, a chyrhaeddodd ei gofiant i Lewis Valentine restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Mae Y Ddinas ar Ymyl y Byd yn un nofelau Cyfres y Dderwen.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHanner canrif ers yr Argyfwng, deuddeg mlynedd ers yr Haint, mae natur wedi troi ben i waered a'r byd wedi troi'n anialwch uffernol. Mae'r bobl sydd ar ol wedi eu corlannu fel defaid yn y Ddinas ar Ymyl y Byd. Tu mewn i Wal y Ddinas mae pawb o dan ofal y Ceidwad ac yn byw mewn ofn rhag y Rhwydwyr. Ond beth sydd y tu hwnt i'r Wal a beth yw cyfrinach dywyll yr awdurdodau? Lawr ar y strydoedd mae rhai yn barod i sefyll yn erbyn y llanw, ond pwy yw'r ferch a marc y cylch ar ei hysgwydd? Dyma nofel weledol ei naws, sy'n llawn tensiynau, cyffro ac uchafbwyntiau. Mae'n stori sy'n symud yn gyflym ac ynddi ceir elfennau arallfydol, cymeriadau cryf, plot byrlymus a throadau annisgwyl sy'n taro deuddeg. ************************************** Chwedl Dywyll o'r Dyfodol Nofel wedi’i lleoli yn y dyfodol yw Y Ddinas ar Ymyl y Byd gan Arwel Vittle a gyhoeddir yr wythnos hon. Mae’n cyfleu darlun tywyll o fywyd ar ddiwedd y byd yr ydyn ni’n gyfarwydd ag e. O fewn y byd arallfydol hwn mae'r amgylchedd wedi ei wenwyno a phawb yn byw mewn ofn rhag dal haint marwol; lle mae bwyd yn brin; byd heb geir a threnau a lle nad yw awyrennau'n cael hedfan. Ar ôl digwyddiadau diweddar, fel ffrwydriadau llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ, y gwaharddiad ar hedfan, a haint y ffliw moch, efallai nad yw hunllef o fyd fel hyn mor anghredadwy â hynny. Mae’r dinasyddion, sydd wedi goroesi sawl cyflafan erchyll, wedi’u corlannu fel defaid y tu mewn i Wal y Ddinas, dan ofal y Ceidwad sinistr ac yn byw mewn ofn rhag y Rhwydwyr, sef milisia’r Ceidwad. Mae’r awdurdodau’n celu cyfrinachau, ac un gyfrinach yn fwy erchyll na dim. Nofel yw hon sy’n adrodd hen stori mewn lleoliad newydd am ymdrech merch, Lluan, i ddarganfod pwy yw hi a rheoli ei thynged ei hun. I wneud hynny mae'n rhaid iddi gael cymorth y bobl sy’n herio’r swyddogion a reolai’r Ddinas ar Ymyl y Byd. Ond nid yw Lluan yn barod i gymryd gan neb, ac un rheol sy ganddi – peidiwch byth â chredu’r bobl sy’n arwain. Yn ôl Meinir Wyn Edwards o wasg y Lolfa: “Dyma nofel fyrlymus a chyffrous, llawn dirgelwch a throadau annisgwyl, a fydd yn apelio at ystod eang o ddarllenwyr. Ceir ynddi gyfeiriadau at bethau mor amrywiol â ffilmiau fel y Matrix a Blade Runner, nofelau Phillip Pullman a Tolkein, hen chwedlau Groeg a barddoniaeth Gymraeg.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820820697462,"sku":"9781847712127","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847712127.jpg?v=1790360939","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-y-dderwen-y-ddinas-ar-ymyl-y-byd-9781847712127","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}