{"product_id":"cyfres-y-dderwen-siarad-9781847713469","title":"Cyfres y Dderwen: Siarad","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'r nofel hon yn adrodd hanes teulu sydd wedi mynd i fyw eu bywydau trwy'r sgrin - sgrin deledu a chyfrifiadur - yn hytrach nag yn y byd go iawn, gan arwain at ddiweddglo dirdynnol. Nofel ar gyfer yr arddegau hwyr ac oedolion.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNew York 9\/11. A plane is about to strike one of the towers. Cardiff 9\/12. A family is shattered. This is a contemporary novel about an horrific event and its profound effects on the life of one family. A psychological novel aimed at adults and teenagers by an experienced author.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847713469\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847713469\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres y Dderwen: Siarad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Lleucu\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-11-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e160 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRoedd nofelau eraill Lleucu Roberts i’r Onnen a’r Dderwen yn werthwyr gorau. Enillodd Annwyl Smotyn Bach Wobr Tir na nOg yn 2009 a Stwff yn 2011.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r nofel hon yn mynd i berfedd seicoleg un teulu sydd yn dioddef i’r byw o beidio ‘siarad’ â'i gilydd. Pan fo trychineb yn tarfu ar y byd ac ar fywydau personol, nid ‘siarad’ o anghenraid yw ein hymateb cyntaf, ond mae’n bosib i hyn fynd yn rhy bell, a dyma a gawn yma wrth i ni ddilyn cwymp Mair i grombil iselder. Yn fam addfwyn ar y dechrau, mae Mair yn teimlo effeithiau trasiedi 9\/11 i'r byw, a phan fo damwain yn difetha ei huned deuluol hithau, dim ond mewn un ffordd y gall Mair ddygymod â'r peth. Yn y nofel hon ystyrir y ffin denau rhwng yr hyn sy'n galluogi unigolyn i ymdopi, a’r hyn sy’n ei wthio i wallgofrwydd. Ceir yma dystiolaeth o sut y gall tawelwch effeithio ar deulu cyfan. Mae hon yn nofel glyfar a gafaelgar a bu’r awdur yn fentrus wrth ymlwybro i fyd seicoleg. Mam ac iselder arni sydd yma, a llwyddir i ddal diddordeb y darllenydd drwy'r stori. Ceir yma ymbil taer am gyfathrebu rhwng y cymeriadau. Mae yma hefyd ddigon o ddigwyddiadau a throbwyntiau sy'n gwthio’r cymeriadau i gyflawni gweithredoedd sydd yn eu newid am byth. Pan fo’r unig berson sydd â’r potensial i gynnig clust yn troi cefn, does dim ond un ffordd ymlaen mewn bywyd mor gaeedig. Hyd at ddiwedd y nofel, mae’r darllenydd yn cael ei sugno i ganol ffawd y cymeriadau. Yn sicr, fe fydd pob darllenydd am i Mair gael ei gollwng o’i chaethiwed. Ie wir, petai hi ond yn medru ‘siarad’ ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820824400246,"sku":"9781847713469","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847713469_bc579aea-578e-45d7-b42d-da20084fff40.jpg?v=1790360975","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-y-dderwen-siarad-9781847713469","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}