{"product_id":"cyfres-y-dderwen-dim-9781847714381","title":"Cyfres y Dderwen: Dim","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel yng nghyfres y Dderwen. Stori am ymdrech dyn i oroesi mewn byd o rymoedd sy'n llawer fwy pwerus nag ef ei hun, yn benodol felly rymoedd Dyn a Natur. Sut mae dyn i ddelio â'r grymoedd hyn? Drwy wrthryfela neu drwy gydymffurfio? Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2012.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel for young adults in the Cyfres y Dderwen series. The book tells the story of one person's efforts to overcome the forces of Man and Nature. How does a man overcome these forces? Does he submit or resist? Reprint. First Published in 2012.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847714381\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847714381\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres y Dderwen: Dim\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eChilton, Dafydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-12-21\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Gwyn ac Owain yn dilyn llwybrau gwahanol yn hynny o beth: Owain yn cydymffurfio â threfn Dyn a thrwy hynny’n dod i fyny yn erbyn grym Natur: Gwyn yn gwrthryfela yn erbyn trefn Dyn ac yn dysgu cydymffurfio â threfn Natur. Mae Owain yn cael ei ddinistrio am gydymffurfio â threfn sydd yn ei hanfod yn ddinistriol. Mae Gwyn yn dysgu ei le. Rydym ni i gyd yn Ddim sut bynnag y byddwn ni’n byw, ond mae mwy nac un math o Ddim. Mae’r stori’n seiliedig ar ddigwyddiadau gwir y cyfnod rhwng yr 1960au a’r 1990au, gan gynnwys sefyllfa Gogledd Iwerddon a gwasanaethau cudd Prydain y cyfnod hwnnw. Gobeithiai’r nofel godi cwestiynau ym meddyliau pobl ifanc am yr adeg hanesyddol yna, a sut beth oedd hi i fod yn Gymro’r adeg hynny. ************************************* Datgan y Gwir Mewn Nofel Newydd Datgan y gwir: dyna brif bwrpas nofel newydd Dafydd Chilton, Dim , sy’n dilyn hanes bywyd dau frawd o Gymru rhwng yr 1960au a’r 1990au. A chydag holl brif ddigwyddiadau’r stori yn rhai go iawn, mae’r awdur yn datgan y bydd cynnwys ei nofel yn ddigon i “godi gwrychyn ambell un”. Dyma’r drydedd nofel i’w chyhoeddi'r haf hwn yng Nghyfres y Dderwen – cyfres o lyfrau i’r arddegau sydd hefyd yn addas i oedolion – gan wasg y Lolfa. Bydd cynnwys y gyfrol yn apelio at ddarllenwyr ifanc a hŷn, yn ôl yr awdur, gan fod y gyfrol yn sefyll yn driw i hanes, ac yn datgan digwyddiadau fel ag yr oeddent ar y pryd. “Mae cyfnod y nofel yn un bwysig,” meddai Dafydd Chilton sy’n byw yn Llangernyw, “ond i bob pwrpas ymarferol, mae’n cael ei anwybyddu yn ein hysgolion. Mae nifer o faterion a phethau sy'n cael eu dweud a'u gwneud yn y stori'n debyg o godi gwrychyn ambell un, ond mae pob un o'r materion rheiny naill ai’n ddigwyddiadau gwir neu'n ddyfyniadau go iawn. Mae byd dyn yn un didrugaredd, ac mae angen amlygu hynny o bryd i'w gilydd.” Hanes bywyd dau frawd a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu fel Cymry a cheir yn Dim. Tra bod y naill frawd yn gadael cartref i ymaelodi â’r fyddin, mae’r llall yn aros i helpu’i ewythr ar y fferm lle magwyd y ddau, yng Nghwm Llawenog. “Mae cymeriadau’r Cwm sydd yn y stori, a’u hymddygiad, hefyd yn seiliedig ar bobl frodorol yr ardal, eu hiaith a’u ffordd o weld y byd,” eglura’r awdur. “Yn ddigon rhyfedd, mae nifer o'r materion a drafodir yn y nofel wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar,” ychwanega’r awdur. “Materion llosg fel y fyddin yn recriwtio Cymry, trais a bwlio mewn ysgolion bonedd, helyntion gogledd Iwerddon a'r SAS, Rhyfel y Falklands, damwain hofrennydd Kintyre, twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru a llosgi tai haf.” Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd Cyfres y Dderwen, “Dyma nofel gyffrous a fydd yn apelio at fechgyn a merched. Mae’n dangos gwrthdaro ar sawl lefel, ac mae digwyddiadau hanesyddol yng Nghymru a’r byd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn ei gwneud hi’n nofel bwerus y bydd llawer o drafod arni.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820827283830,"sku":"9781847714381","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847714381_66702b80-c30e-48c6-83a8-1ba3118ec489.jpg?v=1790361023","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-y-dderwen-dim-9781847714381","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}