{"product_id":"cyfres-tonfedd-heddiw-eiliad-ac-einioes-9781911584377","title":"Cyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad cyntaf o gerddi i oedolion gan Casia Wiliam. Mae yma gerddi tyner a gwreiddiol sy'n ymateb i freuder bywyd a threigl amser - o'r gusan flasus sy'n diflannu mewn eiliad i'r teimladau cyfrin hynny sy'n aros efo ni am byth.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHer first volume of poetry for adults by Casia Wiliam, comprising sensitive poems responding to the brittleness of life and the passage of time - from the first sweet kiss that disappears in a second to the mystical feelings that stay with us forever.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584377\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584377\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWiliam, Casia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-07-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e56 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 × 170 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Casia Wiliam yn wyneb cyfarwydd i blant Cymru wedi ei chyfnod fel Bardd Plant Cymru o 2017 i 2019. Wedi cyfnod yn byw yng Nghaerdydd mae hi bellach wedi ymgartefu 'nôl yn y gogledd gyda’i theulu ifanc.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae popeth am gyfrol farddoniaeth gyntaf Casia Wiliam yn gryno, o faint y llyfr a hyd mwyafrif y cerddi i deitlau’r cerddi hynny. Ond crynoder llawn sylwedd yw ei hanfod. Eiliad ac Einioes yw’r ddiweddaraf i’w chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw Barddas sydd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi llwyfan i leisiau beirdd ifanc â rhywbeth i’w ddweud a’r ddawn i’w ddweud yn gofiadwy. Ond dywed Casia yn ei chyflwyniad i’r cerddi hyn – 35 ohonynt – ei bod wedi cymryd cryn amser iddi hi fagu’r plwc i gyhoeddi ei chasgliad cyntaf, er bod ganddi sylfeini i ymfalchïo ynddynt. Bu’n aelod cynhyrchiol o dîm Y Ffoaduriaid ar Y Talwrn am rai blynyddoedd a hi oedd Bardd Plant Cymru 2017–19. Yn ystod y cyfnod hwnnw dangosodd fod ganddi’r ddawn ddiamheuol i ysbrydoli plant yn ogystal ag i gyffwrdd calonnau o bob oed drwy ei hawen. Clywn awgrym o feirniadaeth nawddoglyd weithiau wrth i ambell un ddefnyddio’r ansoddair ‘domestig’ i ddisgrifio darn o lenyddiaeth. Ond onid wrth ein traed, yn y manion bob dydd, y gwelwn ni fywyd a’i holl gymhlethdodau yn eglurach nag yn unman arall? Mae mwyafrif y cerddi yn y gyfrol hon â’u gwreiddiau yn y tir ffrwythlon hwnnw, fel y gerdd i ‘Nain Fron Olau’ lle mae gwylio dillad yn sychu ar y lein yn dwyn i gof hanes brwydr nain y bardd â dementia, ac yn cynrychioli cyfle i’w hwyres bellach weld patrymau gwreiddiol y dillad fu’n ‘poetsio’i gilydd’ yn ystod y salwch creulon: ‘Blows, yn gwmni ac yn gapel i gyd,\/ a choban efo ogla straeon nos da\/ yn dal i swatio ynddi.’ Ciplun cynnes o sgwrs rhwng ei gŵr a’u mab hynaf, yn ei ail iaith, a gawn ni yn ‘Pupur Coch’: ‘Mae wedi creu stori sy’n pefrio yn y llygaid teirblwydd’. Nid fod y profiad o fagu plant yn fêl i gyd. Mae'n hen thema, ond mae delweddau Casia yn y gerdd ‘Dileu’ yn ffres ac yn cyfleu’r ymdeimlad o golli hunaniaeth oherwydd gofynion babi ifanc i’r dim: ‘Pan fydda i’n estyn bron yn lle beiro,\/ yn gwthio coetsh yn lle reidio beic,\/ yn trafod Calpol yn lle straeon nos Sadwrn.’ Ar y llaw arall mae ei hymateb cadarnhaol, er gwaethaf ei blinder, i’r cwestiwn ‘Tisio chwarae efo fi, Mam?’ yn chwerw felys oherwydd ei hymwybod o dreigl amser, tra bod teimlo ei hail blentyn yn cicio yn y groth drannoeth Etholiad Cyffredinol 2019 yn ysbrydoliaeth iddi hithau gicio yn erbyn y tresi gwleidyddol. Portread cynnil o’r hen ddywediad ‘Drwy gicio a brathu mae cariad yn magu’ a gawn yn ‘Brwnt’ lle mae tynerwch yn llenwi’r bylchau rhwng llinellau ‘Llonydd’, toc wedi ffrae rhwng dau, a’i defnydd crefftus o ddelweddau: ‘Rwyt ti’n dangos ffawydden i mi,\/ ei mes, ei dail main,\/ dy lais yn dawel\/ fel yr egwyl rhwng penillion emyn.’ Mae mwy nag un gerdd yn sôn am effaith llesol ymwneud â byd natur, fel ‘Nofio milltir’ a ‘Cae Pawb’, er enghraifft. Yn yr olaf mae’r bardd yn croesawu’r cyfle i ‘drafod y diwrnod\/ efo ’nwylo’. Dotiais at y disgrifiad o sŵn y beic wrth iddi deithio i’r rhandir: ‘Y tsiaen yn udo, a’r sŵn newid-gêr-dolur-gwddw\/yn rhygnu’. A hithau wedi gweithio i elusennau fel Oxfam yn y gorffennol ac yn gweithio bellach i’r Disaster Emergency Committee (DEC) daw cydymdeimlad y bardd â’r rhai sy’n dioddef amgylchiadau byw dirdynnol mewn sawl rhan o’r byd i’r golwg mewn nifer o’r cerddi eraill. Dyna ‘Daeargryn’, er enghraifft, sy’n cyferbynnu lluniau o drychineb Nepal a wêl ar sgrin deledu mewn ystafell aros ysbyty â’r darlun sgan o’i phlentyn yn y groth yn fuan wedyn: ‘Mae dagrau’n cosi fy nghlustiau\/ wrth i’r ddaear grynu.’ Trawiadol hefyd yw’r cyferbyniad rhwng llawnder y Gorllewin a thlodi llwglyd y Trydydd Byd yn ‘Cacen’. Cerdd gomisiwn ar ffurf rhigwm ac yn llais plentyn yw’r ‘Ti’ teimladwy sy’n dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Ac mor addas, o ystyried naws gyffredinol y gyfrol hon, mai ‘Darnau bach, darlun mawr’ yw teitl cerdd gomisiwn arall sy’n dathlu canmlwyddiant sefydlu elusen Achub y Plant. Os bu ‘neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’ erioed, yn sicr mae i’w chael yn helaeth rhwng cloriau cryno Eiliad ac Einioes .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821132222838,"sku":"9781911584377","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584377_78e090b4-6f22-4e64-8080-b846f4b8633a.jpg?v=1790364618","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-tonfedd-heddiw-eiliad-ac-einioes-9781911584377","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}