{"product_id":"cyfres-swigod-sam-y-capten-a-r-siarc-od-9781848511187","title":"Cyfres Swigod: Sam, Y Capten a'r Siarc Od","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'n Ddiwrnod y Llyfr ac mae plant y dosbarth i gyd wedi eu gwisgo fel cymeriadau amrywiol o fyd llyfrau. Ar y ffordd adref o'r ysgol, mae un o'r plant yn cael ei gamgymryd am un o'r cymeriadau gan ddechrau ar antur fawr.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIt's World Book Day and all the children in the class have dressed up as various book characters. On the way home from school, one of the children is mistaken for one of the characters, sparking a great adventure.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848511187\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848511187\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Swigod: Sam, Y Capten a'r Siarc Od\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Sian\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-02-03\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeirion, Catrin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e88 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 180 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori i’r plant iau, 7-9 oed, yw’r stori hon. Mae’r clawr yn lliwgar gyda chymeriadau anhygoel yn chwarae offerynnau cerddorol arno. Bydd y teitl, a’r addewid o stori am fôr-ladron, yn apelio at y plant, yn enwedig, efallai, at y bechgyn. Sam Hopcyn yw’r prif gymeriad ac mae’n ddisgybl Blwyddyn 3 yn Ysgol Llanllyfr. Mae’r ysgol yn mynd i ddathlu Diwrnod y Llyfr trwy gynnal cystadleuaeth ‘Gwisgo fel Cymeriad mewn Llyfr’ ac yn anfon llythyron adre gyda'r disgyblion er mwyn iddyn nhw gael caniatâd eu rhieni i gymryd rhan. Yr addewid yw y gall rhywbeth arswydus, cyffrous neu anturus ddigwydd ar y diwrnod! Pan wêl Sam y geiriau hyn, nid yw am gymryd rhan ac mae’n cuddio’r llythyr yng ngwaelod ei fag. Ond mae ei fam yn cael llungopi o'r llythyr gan ffrind iddi ac yn mynd ati i wnïo gwisg y môr-leidr Barti Ddu i'w mab. Mae Sam yn dal yn benderfynol nad yw am gymryd rhan ac yn mynd â’i wisg ysgol gydag e yn ei fag. Wrth iddo newid rhwng y sied a wal yr ysgol, mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd – mae môr-leidr go iawn yn ymddangos ac yn bygwth bwydo Sam i’r siarcod! Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth ac mae Sam yn profi’r union bethau nad oedd eisiau eu profi ar ddechrau'r llyfr! Stori i’w mwynhau yw hon, ac mae'n llawn o ddigwyddiadau cyffrous i sbarduno trafodaethau dychmygol a diddorol. Rosemary Thomas ***************************** Mae Siân Lewis yn hen law ar ysgrifennu llyfrau bywiog a diddorol ar gyfer plant oed cynradd, a gwelwn ei dawn ar ei gorau yn y llyfr hyfryd hwn ar gyfer plant iau Cyfnod Allweddol 2. Mae’n sicr y bydd y rhan fwyaf o blant yr oed hwn yn cael eu denu’n syth at y llyfr o weld y llun bendigedig ar y clawr ac o ddarllen y broliant sy’n addo stori lle mae pethau ‘sbwci, cyffrous neu anturus’ yn medru digwydd. Llyfr llawn hwyl a dychymyg a gawn yma, a stori antur tra gwahanol i’r arfer. Mae’r syniad o glymu’r stori â dathliadau Diwrnod y Llyfr Ysgol Llanllyfr yn un clyfar, a’r hyn a gawn yw hanes taith ddiddorol Sam Hopcyn, plentyn Blwyddyn 3, wrth iddo gwrdd â phob math o gymeriadau gwyllt a gwallgof ar long Capten Cranc y môr leidr milain. Mae’r ysgrifennu’n gynnil a chlyfar, a’r penodau byrion yn rhai y gall plant o’r oed yma ymdopi’n rhwydd â hwy. Mae’r iaith a ddefnyddir yn gwbl addas i’r oed targed. Defnyddir patrymau a chystrawennau gweddol syml, ac ailadroddir hwy’n gyson er mwyn hybu ymwybyddiaeth plant o Gymraeg cywir (Roedd e’n hoffi, Doedd e ddim yn hoffi, ac ati). Ceir defnydd o idiomau ac ymadroddion bendigedig gydol y gyfrol (cyn pen chwinc, dros ben llestri), yn ogystal â geirfa forwrol addas pan fo’r cymeriadau ar fwrdd y llong (canllaw, astell, angori), a defnydd o enwau pwyntiau’r cwmpawd - hyn oll yn cyfoethogi ac ymestyn iaith y darllenydd ifanc. Roeddwn i wrth fy modd â dewis yr awdur o enwau hefyd (Mrs Swyn Cadwaladr y brifathrawes, Ysgol Llanllyfr, a llong y Jac Do-re-mi, er enghraifft), yn ogystal â’r modd y llwydda i chwarae ar eiriau’n glyfar mewn sawl man yn y llyfr. Mae ei defnydd o hiwmor cynnil, tafod-yn-y-boch hefyd yn effeithiol dros ben, ac mae’r stori’n symud yn ei blaen yn gyflym gan gyfleu cyffro a gwallgofrwydd y digwyddiadau rhyfedd. Mae lluniau bendigedig yr arlunydd Catrin Meirion yn ychwanegu at ddoniolwch y stori ac yn dod â hynodrwydd y cymeriadau a’r plot yn fyw i’r darllenydd. Mae ‘Sam, y Capten a’r Siarc Od’ yn siŵr o gydio yn nychymyg plant ledled Cymru, ac, o safbwynt athrawes ysgol gynradd, byddai’n lyfr perffaith i’w fwynhau a’i werthfawrogi fel dosbarth cyfan. Cefais fwynhad pur o’i ddarllen, a gwnaeth i mi ddyheu am gael bod yn blentyn, mewn byd lle nad oes pen draw i’r dychymyg, unwaith yn rhagor!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820844323190,"sku":"9781848511187","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848511187.jpg?v=1790361216","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-swigod-sam-y-capten-a-r-siarc-od-9781848511187","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}