{"product_id":"cyfres-swigod-bwystfil-bryn-bugail-9781848514003","title":"Cyfres Swigod: Bwystfil Bryn Bugail","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWarden ym Mharc Cenedlaethol Bryn Bugail yw tad-cu Owain ac yno yn ystod y gwyliau lleolir yr helyntion - dwyn pysgod ac anifeiliaid, pwma mawr du yn troedio'r mynyddoedd a lladron cefn gwlad yn cael eu dal.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOwain's Grandad is a warden in Bryn Bugail National Park in which the tales are set during the holidays - stealing fish and animals, a big black puma trudging across the mountains and countryside thiefs are caught.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848514003\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848514003\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Swigod: Bwystfil Bryn Bugail\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSion, Meilyr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-05-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e64 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e129 × 197 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma stori a afaelodd yn nychymyg bechgyn ein tŷ ni o'r eiliad gyntaf, a hwythau'n ddarllenwyr brwd 8 a 10 oed. Mae cath fawr yn lladd anifeiliad ym Mryn Bugail. Dyna'r sôn o leia', ond daw hi i'r amlwg mai'r ffermwr Edwin sydd wedi cynllwynio'r cyfan er mwyn dwyn creaduriaid yr ardal. Wrth gwrs, mae yna dro yng nghynffon y stori ar y diwedd a achosodd dipyn o syndod a rhyfeddod i'r bechgyn. Ceir yma stori afaelgar i blant oedran cynradd, ynghyd ag ymdrech hefyd i wau straeon a phryderon bywyd bod dydd sy'n effeithio ar nifer fawr o ddarllenwyr ifainc, megis chwalfa perthynas eu rhieni. Mae cyfeiriad at hynny yn lled gyson yn y stori, ac yn bersonol, mi fyddwn i wedi dymuno diweddglo i'r stori honno gan ddarganfod beth yn union ddigwyddodd i rieni Owain. Ceir disgrifiadau manwl yn y nofel o fywyd cefn gwlad, o'r arferion pysgota i dafodiaith a dywediadau de Ceredigion, a braf yw darllen llyfr i blant gan awdur sydd â thafodiaith y gorllewin. Mae yna ddealltwriaeth yma o'r hyn sy'n apelio at ddarllenwyr ifainc, ac er bod disgrifiadau manwl o fywyd traddodiadol cefn gwlad yn britho'r stori, mae'r byd modern a gallu plant i ddefnyddio cyfarpar technolegol yn amlwg iawn yma. Dyma enghraifft o nofel sy'n pontio rhwng oes mam-gu a thad-cu ac oes yr wyrion, a hynny mewn modd cynnil a gonest. Mae Lleu a Caeo Pryce yn rhoi 9 allan o 10 i'r stori, a'u barn nhw sy'n cyfri, wedi'r cyfan! Un sylw bach – fe fydden nhw wedi dymuno cael lluniau lliw gan fod y lluniau'n mynd law yn llaw â chyffro'r stori.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820853924214,"sku":"9781848514003","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848514003.jpg?v=1790361322","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-swigod-bwystfil-bryn-bugail-9781848514003","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}