{"product_id":"cyfres-swigod-ar-binnau-9781848513846","title":"Cyfres Swigod: Ar Binnau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyw Mona ddim fel cŵn eraill. Mae ganddi gyfrinach nad oes modd iddi ei rannu gyda neb. A fydd modd i Gwenno, ei ffrind gorau yn y y byd, ei helpu? Stori drawiadol am berthynas hoffus merch fach a chi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMona is not like other dogs. She has a secret which she cannot share with anyone. Will her best friend Gwenno be able to help her overcome her biggest fear? A striking novel about an endearing relationship between a little girl and a dog.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848513846\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848513846\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Swigod: Ar Binnau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSiôn, Mari\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-05-12\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFlook, Helen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 × 210 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTreuliodd Mari ei phlentyndod yn Nyffryn Ceiriog a’i llencyndod yn ninas Bangor. Wedi graddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth y Trydydd Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i dderbyn gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Wedi cyfnod yng Nghaerdydd yn gweithio i Blaid Cymru ac RNID Cymru, dychwelodd i Geredigion. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ble mae’n gweithio i Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant. Yn 2004, enillodd Fedal Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn am ei chasgliad o gerddi, ‘Dilyffethair.’ Ers hynny mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi yn Tu Chwith, Golwg a Poetry Wales. Yn 2010 sefydlodd y blog be di gender yn Gymraeg? a’i nod o greu gofod i fenywod drafod pob agwedd o’u bywydau a hynny mewn cyd-destun ffeministaidd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDewch i ddilyn hynt a helynt Mona’ r ci, wrth iddi ymgartrefu gyda Thaid ym mhentref Glyn Peblig a dod yn ffrindiau gyda Gwenno, ei wyres sy’n byw drws nesa. Gyda chymorth Gwenno mae’r ci arbennig yma yn dysgu sut i ‘ishte, yn cael cyfle i fwynhau chwarae pêl yn y parc, heb son am fynd am dro ar hyd a lled y pentref. Ond mae gan Mona gyfrinach fawr. Mae ar binnau o hyd a hynny am ei bod hi ofn bron i bopeth! O’r tywyllwch a’i gysgodion i gath Mr Criddle, Martha. Mae’r rhestr yn ddi ben draw! Pan ddaw Euros cefnder Gwenno ar ei wyliau i Lyn Peblig dros hanner tymor yr Hydref mae’r ddau’n benderfynol o gynorthwyo Mona i ddod dros ei hofnau. Ond a fydd modd i’r ddau ei helpu?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820853465462,"sku":"9781848513846","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848513846_1d5b91ab-912b-4d78-9ca4-83af2537d5c3.jpg?v=1790361313","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-swigod-ar-binnau-9781848513846","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}