{"product_id":"cyfres-rwdlan-16-sbector-sbectol-9781847714145","title":"Cyfres Rwdlan: 16. 'Sbector Sbectol","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Rala Rwdins a'r Dewin Doeth wedi cael llond bol ar lanast Rwdlan a'r Dewin Dwl ac yn penderfynu ei dacluso. Ond mae pethau'n mynd ar goll ac mae 'Sbector Sbectol, y ditectif rhyfedd, yn ceisio darganfod pwy yw'r lleidr. Stori hyfryd arall gan Angharad Tomos i blant dan 7 oed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRala Rwdins and Dewin Doeth are fed up of Rwdlan and Dewin Dwl's mess and decide to clean it up. But things go missing and Sbector Sbectol, the strange detective, is trying to discover the thief. Another amusing story by Angharad Tomos suitable for children under the age of 7.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847714145\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847714145\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Rwdlan: 16. 'Sbector Sbectol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTomos, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-04-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e153 × 170 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFor babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAngharad Tomos yw un o awduron llyfrau plant fwyaf cynhyrchiol Cymru, a gwelir ei gwaith celf yn ogystal â’i chyfansoddiadau yng Nghyfres Rwdlan. Mae ei chymeriadau lliwgar eisoes wedi’u trosglwyddo yn llwyddiannus i'r llwyfan ac i'r sgrin, ac enillodd Llipryn Llwyd Wobr Tir na n-Og iddi ym 1985. Angharad Tomos hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2009 am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant. Mae rhannau o archif Angharad Tomos, 1986 – 1997 nawr i’w gweld mewn arddangosfa arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cynnwys ambell eitem o gasgliad personol yr awdures. Yn eu mysg y mae gonc bach melyn o’r Dewin Dwl ac un du o Ceridwen y wrach, a’i llyfr braslunio pan oedd yn y carchar yn 1980.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e’Sbector yn Datrys Dirgelion yng Ngwlad y Rwla… Bron i ddeng mlynedd ar hugain ers cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant, Rala Rwdins, mae Angharad Tomos yn cyhoeddi llyfr newydd yng Nghyfres Rwdlan o’r enw ’Sbector Sbectol . Mae hi’n ddiwrnod prysur yng Ngwlad y Rwla, gan fod Rala Rwdins a’r Dewin Doeth ill dau wedi cael llond bol o stafelloedd anniben Rwdlan a Dewin Dwl, ac wedi mynd ati i dacluso. Ond yn sydyn, mae pethau’n dechrau mynd ar goll, a rhaid galw ar ’Sbector Sbectol i ddal y lleidr. Pwy fyddai wedi dwyn tebot, tedi a mêl? Rhaid datrys y dirgelwch reit sydyn, oherwydd mae te Ceridwen yn oeri, ac ni all Dewin Dwl gysgu’n iawn heb Tedi Melyn!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820827185526,"sku":"9781847714145","price":2.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847714145_e6ea4bcd-07e8-4480-a745-eb91b3a89778.jpg?v=1790361021","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-rwdlan-16-sbector-sbectol-9781847714145","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}