{"product_id":"cyfres-rwdlan-14-dan-y-dail-9781847711250","title":"Cyfres Rwdlan: 14. Dan y Dail","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMwy o anturiaethau'r Dewin Dwl, Rala Rwdins a Rwdlan mewn llyfr newydd am y Tŷ Pen Coeden yng nghyfres Rwdlan. Mae Rala Rwdins yn adeiladu tŷ coeden i'r Dewin Dwl gael chwarae ynddo. Mae'n cael amser cyffrous yng nghanol y coed a'r dail, ond mae'n dringo rhaff i mewn i dŷ rhywun arall. Camgymeriad dwl iawn! Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1985.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMore adventures in the Rwdlan series, in the company of Dewin Dwl, Rala Rwdins and Rwdlan. Rala Rwdins is building a tree house so that Dewin Dwl can play in it. Rala Rwdins is having a great time amidst the trees and the leaves, but she climbs the rope and enters someone else's house. A very silly mistake! Reprint. First published in 1985.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847711250\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847711250\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Rwdlan: 14. Dan y Dail\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTomos, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-04-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e153 × 170 mm; depth 5 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFor babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr Rhif 14 yng Nghyfres Rwdlan – cyfres sydd wedi bod yn boblogaidd ers 1985. Yn y stori hon mae Rala Rwdins yn adeiladu tŷ pen coeden i’r Dewin Dwl, ac mae’n gwahodd y Llipryn Llwyd i gadw cwmni iddo. Ond mae’r dewin bach direidus yn dod o hyd i dy arall yng nghanol y coed a’r dail. Mae’n gwneud ei hun yn gartrefol yno, tan i’r perchennog ddod yn ôl! Mae 22 o luniau lliw llawn o’r cymeriadau adnabyddus yn y gyfrol. ************************************* Rwdlan yn ôl wedi wyth Mlynedd o Fwlch! Mae'r Lolfa wedi rhyddhau Dan y Dail sef rhif 14 yng nghyfres Rwdlan. Er bod nifer o lyfrau wedi eu cyhoeddi i blant bach yng Nghyfres Darllen Mewn Dim dyma’r gyfrol gyntaf i gael ei chyhoeddi yng nghyfres Rwdlan ers Cosyn dros wyth mlynedd yn ôl. Mae dros chwarter canrif ers i gymeriadau Gwlad y Rwla weld golau ddydd am y tro cyntaf yng nghyfrol gyntaf y gyfres Rala Rwdins. Dywedodd Angharad Tomos, sy’n fam erbyn hyn, bod Hedydd ei mab pump oed wrth ei bodd â storiâu Rwdlan. “Profiad rhyfedd iawn oedd gweld fy mhlentyn fy hun yn edrych ar y llyfrau. Mae’n dda gen i ddweud ei fod wrth ei fodd efo nhw! Ond, wedi gweithio ar ysgrifennu am y cymeriadau drwy’r dydd, y peth olaf rydw i eisiau ei wneud yw darllen stori Rwdlan cyn iddo fynd i gysgu! Rhaid cofio i mi sgwennu’r storiau cynharaf cyn i unrhyw un yn y teulu gael plant bach, a’r rhyfeddod yw bod plant yn hoffi’r un pethau. Mae wastad yn fy synnu mor alluog yw plant am sugno iaith a gwerthfawrogi jôc.” Cyfres Rwdlan yw un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd i blant yn Gymraeg erioed gydag ymhell dros 100,000 o lyfrau wedi eu gwerthu. Dywedodd Meinir Edwards, golygydd Y Lolfa, “Mae’r llyfrau a’r cymeriadau yn mynd o nerth i nerth gyda chenhedlaeth newydd yn mopio arnynt. Dyw cymeriadau cyfres Rwdlan byth yn dyddio, maen nhw’r un mor ffres a byw ag erioed...” Erbyn diwedd 2009 bydd llawer o lyfrau ac adnoddau newydd wedi eu seilio ar gymeriadau Rwdlan yn cael eu cyhoeddi fel rhan o gyfres Darllen Mewn Dim. Mae bwriad hefyd i gyhoeddi Sioe Gerdd Nadolig wedi ei seilio ar gymeriadau’r gyfres.” Sut Mae Gwneud Llyfr http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=fATurzEoanQ\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820819157366,"sku":"9781847711250","price":2.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847711250.jpg?v=1790360911","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-rwdlan-14-dan-y-dail-9781847711250","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}