{"product_id":"cyfres-pen-dafad-mewn-limbo-9780862436933","title":"Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyddiadur chwerw-felys bachgen yn ei arddegau sydd ag anawsterau dysgu (oherwydd ei fod yn dioddef o dyslecsia), yn gocyn hitio i bawb ac sy'n cofnodi ei rwystredigaethau cyn canfod bodlonrwydd yn y clwb drama; i ddarllenwyr 12-15 oed. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2003. (ACCAC)\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe bitter-sweet diary of a teenage boy with learning difficulties (dyslexia) who is everyone's butt of mockery and who records his frustrations before finding satisfaction in the drama club; for readers aged 12-15 years. First published in August 2003. (ACCAC)\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780862436933\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780862436933\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Pen Dafad: Mewn Limbo\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGlyn, Gwyneth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-12-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Alun; Royles, Nia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e80 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDEWEY code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNational Library of Wales Dewey Code\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae gen i asgwrn i'w grafu gyda Gwyneth Glyn. Mae hi'n gwneud gwaith adolygydd yn anodd iawn. Ydw, dw i'n gallu ffeindio digon i'w ganmol am ei nofel, Mewn Limbo , i bobl ifanc. Ond does yna ddim i'w feirniadu. Ac mae hynny'n rhan o waith adolygydd, on'd yw e? Mae'r nofel ar ffurf dyddiadur ac yn agor cil y drws ar fywyd Matthew Parry, disgybl ysgol yn nosbarth 9N. Ond dydy Matthew ddim eisiau ysgrifennu dyddiadur. Dydy e ddim yn hoffi ysgrifennu a dydy e ddim yn hoffi'r ysgol rhyw lawer chwaith. Mae e'n cael ei orfodi i sgrifennu gan ei Seicolegydd Addysg fel rhan o'i therapi, a hynny ar ôl rhoi llyfr ar dân yn y wers Gymraeg. Mae yna reswm arall pam nad yw e'n hoffi sgrifennu. Mae Matthew'n dyslecsig. Problemau ymddygiad, dyslecsia, teulu un rhiant, hiliaeth  dyma rai o'r materion sy'n codi yn y nofel. Ac, eto, un o'i chryfderau yw nad yw'r awdures yn gwneud môr a mynydd o'r pethau yma. Maen nhw'n rhan naturiol o lif y stori, yn agweddau ar gymeriad Matthew, ond nid y cyfan. Yn y bôn mae'n stori am fachgen yn aeddfedu ac yn dysgu parch a goddefgarwch at bobl eraill. Ac oherwydd gafael Gwyneth Glyn ar yr arddull storïol dydy hi ddim yn stori nawddoglyd o fath yn y byd. Camp arall yw'r arddull sy'n llwyddo i fod yn anffurfiol dafodieithol ogleddol ac eto'n ddarllenadwy iawn  hyd yn oed i Hwntw fel fi. Mae yna dipyn bach o Saesneg ac ambell reg  digon i wneud i'r cyfan swnio fel petai e'n dod o geg disgybl 9N ond heb ymddangos yn stroclyd. Mae'r iaith fywiog yn sboncio oddi ar y ddalen. Ac mae'n llawn o chwarae clyfar ar eiriau nad ywn tynnu sylw ato'i hun. Os y'ch chi'n athro, rhowch y llyfr yma i'ch disgyblion. Os y'ch chi'n ddisgybl, rhowch e i'ch ffrind. Ac os y'ch chi'n rhiant, rhowch e i'ch plentyn. Mae Mewn Limbo yn chwip o lyfr da sy'n siŵr o blesio darllenwyr brwd a darllenwyr anfoddog  fel Matthew. Ac fel y byddai Matthew ei hun yn ei ddweud  Nice one. Job done!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819041657206,"sku":"9780862436933","price":2.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780862436933.jpg?v=1790347297","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-pen-dafad-mewn-limbo-9780862436933","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}