{"product_id":"cyfres-pen-dafad-baba-hyll-9781847714541","title":"Cyfres Pen Dafad: Baba Hyll","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel arall yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Manon Steffan Ros wedi ennill Gwobr Tir na nOg 2010 ( Trwy'r Tonnau ) a Gwobr y Bobol Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda'i nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn . Mae hefyd wedi cyhoeddi Hunllef yn y gyfres Stori Sydyn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAnother novel in the Pen Dafad series for younger teenagers. Manon Steffan Ros won the Tir na nOg award (for Trwy'r Tonnau ) and the Wales Book of the Year people's prize (for her adult novel Fel Aderyn ), both in 2010. She has also published a novel, Hunllef , in the Stori Sydyn series.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847714541\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847714541\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Pen Dafad: Baba Hyll\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRos, Manon Steffan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-02-05\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e122 × 185 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRydw i wedi’i ddweud e sawl gwaith ac mi ddywedaf eto – mae Manon Steffan Ros yn un o’n hysgrifenwyr gorau yng Nghymru heddiw. Mae hi’n ysgrifennu'n fywiog ac yn gynnes, ac yn gwneud i chi ysu am gyrraedd ei diwedd er mwyn gweld beth yw clo'r stori. Dyw’r gyfrol hon yn y gyfres Pen Dafad ddim yn eithriad. Dyma gyfres arloesol i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n trafod ystod eang o bynciau. Stori yw Baba Hyll am daith Huw yn dychwelyd o dŷ ei ffrind. Roedd ei fam yn llawer rhy brysur i’w nôl a doedd e ddim wedi mynd â’i feic ac felly doedd dim amdani ond cerdded ar hyd y ffordd a arweiniai i fynydd Moel y Ci a chamu i’r goedwig. Fel arfer, fe fyddai adre mewn dim o amser ond wrth iddo gofio am straeon ei fam am Baba Hyll, sef gwrach a drigai yn y goedwig, daeth profiad rhyfedd iawn i’w ran a doedd ’na ddim dianc. Ymhen hir a hwyr roedd Huw yn nhŷ Baba Hyll - ac aeth diwrnodau heibio yn ei feddwl ef beth bynnag - wrth iddo wneud pob math o bethau i Baba Hyll. Fe fu’n gwneud tân, golchi dillad gwely, trwsio’r to a bu’n cysgu yn ei gwely hi hefyd. Mae’r sefyllfa yn un oeraidd a chyfleir yr ofn sydd yn Huw yn aml ond eto mae yna gynhesrwydd yn ymwneud Huw â hi. Er ei ofn cychwynnol mae e’n closio ati a cheir elfen o deyrngarwch rhwng y ddau. Mae yna is-wers yma sef na ddylid derbyn gair pobl eraill bob tro am rywun. Y peth doethaf yw ffurfio barn annibynnol fel y canfu Huw. Dyma stori sy’n hawdd iawn i’w darllen - yn addas ar gyfer plant ysgol uwchradd ond hefyd yn ddigon difyr i oedolion, fel y canfu’r adolygydd hwn! Manon – edrychaf ymlaen at dy waith creadigol nesaf.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820827709814,"sku":"9781847714541","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847714541_07fccb68-6fbd-465e-870c-bc8159176fdd.jpg?v=1790361031","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-pen-dafad-baba-hyll-9781847714541","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}