{"product_id":"cyfres-nabod-2-gwenwch-9780860742715","title":"Cyfres Nabod: 2. Gwenwch!","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol sy'n rhan o'r gyfres Nabod, lle mae'r gyflwynwraig deledu, y cynhyrchydd a'r tiwtor Cymraeg, Nia Parry, yn rhoi cipolwg o'i hanes, o'i dyddiau cynnar yn Nwyran ar Ynys Môn a Llandrillo-yn-Rhos, o Ysgol y Creuddyn i Brifysgol Abertawe, yna'r cyfnod yn byw a gweithio yng Nghaerdydd cyn ymgartrefu yn Rhostryfan yng Ngwynedd a dod yn fam ei hun y llynedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA new title in the 'Nabod' series, where the television presenter, producer and Welsh-language tutor, Nia Parry, outlines her story from her early days in Dwyran, Anglesey and Llandrillo-yn-Rhos, from Ysgol y Creuddyn to Swansea University, to a period living and working in Cardiff before settling down to raise a family of her own last year in Rhostryfan, Gwynedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780860742715\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780860742715\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Nabod: 2. Gwenwch!\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eParry, Nia; Jones, Marred Glynn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-03-31\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Gwynedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e60 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 × 200 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau - Benyw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Female (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY FERCH TU ÔL I’R WÊN – STORI NIA PARRY Mae’r wyneb yn un sy’n hollol gyfarwydd i wylwyr S4C, ond faint ohonom sy’n gwybod mwy am Nia Parry nag a gaiff ei ddatgelu gan ei gwên enwog? Mewn cyfrol newydd gan Wasg Gwynedd fel rhan o’r gyfres 'Nabod', mae’r gyflwynwraig, y cynhyrchydd a’r tiwtor Cymraeg yn rhoi cipolwg o’i hanes, o’i dyddiau cynnar yn Nwyran ar Ynys Môn i Landrillo-yn-Rhos, o Ysgol y Creuddyn i Brifysgol Abertawe, yna’r cyfnod yn byw a gweithio yng Nghaerdydd cyn ymgartrefu yn Rhostryfan yng Ngwynedd a dod yn fam ei hun y llynedd. Mae’r gyfrol hwyliog hon ar ffurf llyfr lloffion, sy’n olrhain hanes bywyd a gyrfa Nia law yn llaw â lluniau o albwm personol Nia a’i theulu. Yn ogystal â hanes ei gyrfa, ei theulu a’i ffrindiau, cawn gyfle i glywed Nia yn sôn am ei hoff a’i chas bethau, o’i hoffter o deithio a dawnsio salsa i’w ffobia am unrhyw beth efo ffangs! Cawn glywed hefyd am ei thalent fel bardd, ei diddordeb mewn cadw dyddiadur a chreu rhestrau, a sawl ffaith annisgwyl arall fel ei dawn i ddadansoddi breuddwydion. Ond mae’r llyfr yma hefyd wedi bod yn gyfle i Nia fynd haenen yn ddyfnach, ac yn y gyfrol mae hi’n siarad yn ddi-flewyn ar dafod am y pethau sy’n bwysig iddi – yr iaith Gymraeg a’r ddelwedd negyddol o ‘gyfryngis’, sut y daeth i nabod ei hun yn well a delio gyda chyfnodau tywyll mewn bywyd, megis colli hyder fel merch ifanc a’r profiad ingol o gael trafferth i feichiogi a chario plentyn. Meddai Marred Glynn Jones, cyd-awdur Nia ar y gyfrol, “Yr hyn a’m synnodd i ryw raddau oedd parodrwydd Nia i rannu ei phrofiadau mewn ffordd mor onest. Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r ferch benfelen honno â’r wên hawddgar, ond mae’r gyfrol yma’n dangos fod y wên honno wedi gorchfygu ambell i her go fawr dros y blynyddoedd, ac mae agwedd bositif Nia tuag at fywyd yn wers bwysig i ni i gyd.” Ychwanegodd Nia, “Roedd yn brofiad go od mynd ati i ysgrifennu’r llyfr, yn enwedig a finnau wedi arfer holi pobl eraill am eu bywydau ar raglenni fel Cwpwrdd Dillad! Ro’n i eisiau bod yn onest am fy mhrofiadau mewn bywyd, ac mae wedi bod yn hyfryd cael y cyfraniadau arbennig gan deulu a ffrindiau. Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau darllen fy stori!”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTHE GIRL BEHIND THE SMILE – NIA PARRY’S STORY She’s a familiar face for those who watch S4C, but how many of us know more about Nia Parry than she reveals in her famously sunny smile? In a new Welsh language book Nia Parry: Gwenwch! (Smile) by Gwasg Gwynedd as part of the 'Nabod' (Get to know) series, the presenter, producer and Welsh language tutor reveals her life story, from the early days in Dwyran, Anglesey to Llandrillo-yn-Rhos, and from Ysgol y Creuddyn to Swansea University and her life in Cardiff before she moved up to Rhosgadfan in Gwynedd with her husband and new baby son. Presented in an engaging ‘scrapbook’ style, Nia’s story is told alongside various photos from the family albums. As well as getting the inside info on her career, her family and her friends, Nia reveals some of her likes and dislikes, from her love of travel and salsa dancing to her phobia of anything with fangs! We also learn about her talent as a poet, her interest in keeping a journal, and obsession with making lists as well as other unexpected hobbies, such as her talent for interpreting dreams. But this was also an opportunity for Nia to go a little deeper, and in the book she speaks honestly about the things that are important to her – the Welsh language and the negative image of ‘media luvvies’, how she got to know herself better and deal with the dark times in her life, such as losing confidence as a young woman and the heart-wrenching experience of having trouble conceiving and carrying a child. Marred Glynn Jones, Nia’s co-author on the book said, “What surprised me to some extent was Nia’s readiness to share her experiences in such an honest way. We’re all familiar with Nia’s blonde hair and sunny smile, but this book explains how that smile has got her through some tough challenegs over the years, and Nia’s positive attitude towards life is an important lesson for us all.” Nia added, “Writing the book was quite a strange experience, especially since I’m usually the one interviewing people about their lives on programmes like Cwpwrdd Dillad! I wanted to be honest about my life experiences, and it’s been lovely to get the very special contributions from family and friends. I just hope people will enjoy reading my story!”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819011936630,"sku":"9780860742715","price":6.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780860742715_74592f05-836e-47c8-8e57-549274794b27.jpg?v=1790352951","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-nabod-2-gwenwch-9780860742715","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}