{"product_id":"cyfres-nabod-1-gwyrdd-fy-myd-9780860742630","title":"Cyfres Nabod: 1. Gwyrdd fy Myd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHanes y cymeriad lliwgar a charismataidd Russell Jones, un o gyflwynwyr rhaglen Yn yr Ardd ar S4C. Yn cynnwys llawer o luniau ohono ef, ei deulu a'i ardd yn Rhostryfan, ger Caernarfon, a'i ddiddordebau amrywiol a gwahanol - fel cadw ieir a gwau! Cawn hefyd farn bendant Russell am hyn a'r llall, a phytiau hwyliog amdano gan aelodau o'i deulu.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe story of the colourful and charismatic Russell Jones, one of the presenters of S4C gardening programme, Yn yr Ardd . Contains numerous pictures of Russell, his family and his garden in Rhostryfan, near Caernarfon, and his various interests such as rearing hens and knitting! We hear Russell's firm opinions on various subjects, and interesting tit-bits by his family.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780860742630\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780860742630\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Nabod: 1. Gwyrdd fy Myd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Russell\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-07-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Gwynedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e60 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 × 200 mm; depth 7 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma’r llyfr cyntaf yng nghyfres Nabod, cyfres sy’n cynnig cyfle i gwrdd â Chymry adnabyddus. Mae’n llyfr lliwgar, deniadol gyda lluniau ar bob tudalen ac mae’n cyflwyno portread difyr iawn o Russell Jones. Mae’r gyfrol yn agor gyda sesiwn cwestiwn ac ateb, ‘Holi Russell’, sydd yn tueddu i fod braidd yn ystrydebol, ond wrth iddo drafod ei blentyndod a’i ddyddiau ysgol, mae’r testun yn fywiog a diddorol. Yn ogystal ag atgofion Russell ei hun, ceir pytiau amdano gan ei gyn-brifathrawes, aelodau o’i deulu ac eraill o’i gydnabod. Mae’r sylwadau hyn yn cynnig gwedd ychydig yn wahanol, ond bron yn ddieithriad yn ganmoladwy, ar y garddwr brwd o Rosgadfan. Mae Russell yn dadlennu sut y bu iddo ddechrau ymddiddori mewn cadw anifeiliaid, ac mae’n cynnig cyngor buddiol i unrhyw un sydd am ddechrau cadw ieir! Mae’r gyfrol yn olrhain dyddiau cynnar Russell ym myd gwaith, a sut y daeth i amlygrwydd fel garddwr ac un sy’n ysgogi eraill i ‘fyw yn wyrdd’. Cawn hefyd glywed am Russell y gŵr a’r tad trwy eiriau Jen, ei wraig, a cheir lluniau hyfryd ohonynt gyda’u mab bychan, Bleddyn. Mewn pytiau sy’n dwyn y teitl ‘Ar fy Mocs Sebon’, mae Russell yn datgan ei farn bendant am bynciau amrywiol, o addysg a chrefydd i geir a glanhau. Iaith lafar, anffurfiol a ddefnyddir drwyddi draw, gan greu naws gartrefol, er bod modd i’r defnydd cyson o sillafu’n y ffurf lafar fynd dan groen darllenydd ar brydiau. Ond mae’r iaith yn bendant yn adlewyrchu cymeriad Russell Jones. Fel y dywed criw ffilmio cyfres Byw yn yr Ardd wrtho: “Dyma ’dan ni isio i ti ddeud, ond dwêd o yn dy ffordd dy hun.” Yn sicr, dyma a geir yn y gyfrol ddifyr hon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819011019126,"sku":"9780860742630","price":6.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780860742630.jpg?v=1790347100","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-nabod-1-gwyrdd-fy-myd-9780860742630","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}