{"product_id":"cyfres-mellt-pedwar-9781847716484","title":"Cyfres Mellt: Pedwar","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyffrous yn dilyn pedwar yn ffoi o'u cartref sy'n llawn problemau ond yn darganfod bod bywyd oddi cartref yn eu gorfodi i wynebu problemau gwaeth.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn exciting novel about four youngsters who run away from a troubled home, only to discover that they are forced to face greater problems.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847716484\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847716484\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Mellt: Pedwar\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Lleucu\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-03-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma nofel ddarllenadwy iawn yn y gyfres Mellt, sef cyfres sydd wedi cael ei hanelu at Gyfnod Allweddol 3, sef disgyblion rhwng 11 a 14 oed. Hanes pedwar plentyn a geir yma: Mags (14 oed), Ari (13 oed), Nel (10 oed) a Cai (8 oed), a dyw bywyd ddim yn hawdd i’r pedwar. Does yna ddim sôn am dad ar yr aelwyd ac nid yr un tad sydd gan bob un o’r plant. Digon caled, felly, yw bywyd y fam a’r unig ffordd y mae hi’n medru dygymod â'r sefyllfa yw drwy yfed. Droeon mae’r pedwar yn gorfod edrych ar eu hôl eu hunain a hynny yn aml pan nad oes bwyd yn y tŷ na llawer o arian i dalu amdano. Dyma nofel ddigon cignoeth am bedwar sy’n crafu byw. Ari sy’n cymryd y cyfrifoldeb – mae gan Mags fwy o ddiddordeb mewn siarad ar y ffôn gyda’i ffrindiau a choluro, mae Nel yn bictiwr o ddiniweidrwydd a Cai yn medru bod yn hynod o ddrwg. Er bod yna wahaniaethau mawr rhyngddynt mae’r pedwar yn gytûn na ddylid sôn wrth neb eu bywyd yn y cartref, er bod y ddynes drws nesaf ar bigau’r drain eisiau cael gwybod eu hynt a’u helynt. Un diwrnod, ar ôl disgwyl a disgwyl, does ’na ddim sôn am y fam yn dod adre ac mae’r bwyd yn hynod brin. Yn waeth byth, mae'r afr yn sâl a rhaid galw’r milfeddyg, er nad oes arian i’w dalu. Beth petai rhywun yn dod i wybod yn union sut mae pethau ar y plant ac yn adrodd yr holl hanes i’r gwasanaethau cymdeithasol? Wrth i'r sefyllfa waethygu, doedd dim amdani ond mynd liw nos i Gaerdydd. Cofiai Ari, druan, fod ei fam, yn ystod rhyw gyfnod o feddwdod, wedi sôn am Wncwl Jeremy yng Nghaerdydd. Ond amser a ddengys a yw e’n gallu helpu’r pedwar. Mae’r digwyddiadau yng Nghaerdydd yn llawn cyffro ac ofn – fedrwch chi ddim roi’r nofel i'r naill ochr! Mae yna nifer o themâu yn y nofel hon. Ffyddlondeb yw’r un pennaf ac mae gweld y pedwar plentyn mor driw i’w gilydd ac i’w mam yn dod â deigryn i’r llygad. Dyma nofel sydd wedi’i hysgrifennu yn gelfydd ac y mae’n sicr o ysgogi sawl trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820833018230,"sku":"9781847716484","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847716484_cc7aad86-c745-4f24-ad53-fab0da215f10.jpg?v=1790361074","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-mellt-pedwar-9781847716484","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}