{"product_id":"cyfres-mellt-llwyth-9781847716491","title":"Cyfres Mellt: Llwyth","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyffrous, anturus am lwythau gwahanol yn ymladd am eu hunaniaeth - y Bleiddiaid, y Brain, yr Eirth a'r Dreigiau. Wrth i'r gelyn fygwth eu trechu rhaid i'r llwythau ddod ynghyd a chydweithio er mwyn ennill y dydd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn adventure novel about four different tribes fighting for their identity - the Wolves, the Crows, the Bears and the Dragons. As the enemy threatens, the tribes must unite to win the battle.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847716491\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847716491\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Mellt: Llwyth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwanas, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-03-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBrwydrau brawychus, pwerau arbennig, gelynion dieithr, llwyth yn erbyn llwyth. Nage, nid gêm gyfrifiadurol mo hon, ond stori epig i blant hŷn sy'n eu hudo i’r oes a fu, i oes o gwffio gwaedlyd dros diroedd ac eiddo ac i oes sydd yn adlewyrchu hanes Cymru. Ond nid hefru trwy hen hanesion sydd yma, ond nofel bwerus hollol newydd, hollol Geltaidd y dylai pob plentyn ei darllen. Mae Bethan Gwanas wedi creu campwaith yma. Mae’r Bleiddiaid yn gweithio gyda’i gilydd yn gyfrwys ac yn gyflym. Mae’r Brain yn ddoeth ac yn ddringwyr o fri. Mae’r Eirth yn hoffus iawn ac yn hen lawiau ar daflu arfau. Mae’r Dreigiau yn gweithio’n unigol a gyda doniau arbennig iawn – maen nhw’n gallu gweld i’r dyfodol. Mae’r nofel hon yn seiliedig ar lwythau ar hyd a lled Cymru – rhai sy’n hela’n wyllt, ond yn amddiffyn eu pobl eu hunain, rhai sy’n hedfan ar gefn dreigiau ond hefyd yn fodlon aberthu eu bywydau dros eu tir. Y cymeriadau hyn sydd yn gwneud y stori mor bwerus, yn atseinio chwedlau ein cenedl, ac eto’n apelio at blant heddiw gan eu bod hefyd yn adlewyrchu arwyr goruwchnaturiol gemau cyfrifiadurol – rhywbeth sydd wastad yn plesio! Ond maen nhw hefyd o gig a gwaed, yn teimlo i’r byw, yn bradychu, yn hoffi a ddim yn hoffi ei gilydd ac yn coelio mewn credoau ac yn meddu ar ddaliadau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae’r llyfr hwn hefyd yn frith o dafodieithoedd gwahanol ac yn adlewyrchu lleoliadau gwahanol yng Nghymru – hyn ynddo’i hun yn beth prin hefyd. Yn glyfar iawn, fe fydd y nofel hon yn denu diddordeb brwd mewn hanes ac yn ennyn diddordeb yn yr arwyr go iawn sydd wedi troedio Cymru. Mae’r darllenydd ifanc yn siŵr o orffen hon gyda dychymyg byw am oes y Celtiaid, ynghyd â deigryn yn ei lygaid, lwmp yn ei wddf ond yn caru Cymru yn fwy nag erioed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820833214838,"sku":"9781847716491","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847716491_e64497ff-7ecf-4c3b-a702-9f002ba132cd.jpg?v=1790361076","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-mellt-llwyth-9781847716491","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}