{"product_id":"cyfres-llenorion-cymru-1-jim-parc-nest-9781906396800","title":"Cyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad o ysgrifau hunangofiannol sy'n bwrw golwg ar sawl carreg filltir ym mywyd a gwaith un o'n llenorion amlycaf wrth iddo gyrraedd y pedwar ugain. Cynhwysir bron i 40 o luniau du a gwyn sydd hefyd yn gofnod gwerthfawr o'r daith.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA collection of autobiographical articles which look at the milestones in the life and works of one of Wales' most prominent writers as he reaches his eightieth birthday. Nearly 40 black and white photographs are also included.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781906396800\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781906396800\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Llenorion Cymru: 1. Jim Parc Nest\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, T. James\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-11-13\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e238 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGwreiddiau Gwreiddio Dylanwad Eironiau Diwrnod i'r Brenin O'r Maen Llog Ymweliadau Rhif y Gwlith o Fendithion\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGaned T. James Jones yn 1934. Ef yw’r hynaf o ‘fois Parc Nest’. Fel ei frodyr, John Gwilym ac Aled Gwyn, bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr cyn derbyn swydd fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna yn ddiweddarach, fel aelod o adran sgriptiau’r BBC (bu’n olygydd sgriptiau y gyfres Pobl y Cwm). Enillodd Goron y Genedlaethol ddwywaith (Abergwaun, 1986 a Chasnewydd 1988) a’r Gadair yn yr Wyddgrug (2007). Ef oedd olynydd Dic Jones fel Archdderwydd rhwng 2010 a 2013 – a rhagflaenydd yr Archdderwydd presennol. Ymhlith y cyfrolau o gerddi a gyhoeddodd mae 'Cerddi Ianws Poems', 'Eiliadau o Berthyn', 'Diwrnod i’r Brenin', 'Nawr' ac yn ddiweddarach eleni, 'Cymanfa' (Gwasg Gomer); cyhoeddodd yn ogystal sawl drama a bu’n gyfrifol am gyfieithu 'Under Milk Wood', Dylan Thomas (ymddangosodd pedwar argraffiad o Dan y Wenallt ganddo, y diweddaraf ym mis Mawrth eleni).\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eUn o theorïau llenyddol mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif oedd honno a gyflwynwyd gan Roland Barthes yn ei draethawd, ‘La mort de l’auteur’. Honnai Barthes na ddylid troi o gwbl at fywyd yr awdur, ei farn wleidyddol, ei grefydd, ei genedligrwydd na’i seicoleg, na chwaith y cyd-destun hanesyddol na’r un nodwedd bersonol arall, wrth ddadansoddi’i waith. Fuasai gan Barthes fawr i’w ddweud wrth y gyfrol hon, felly, ond i ni’r Cymry, sy’n hoffi gwybod pwy ydi pwy a beth ydi beth, bydd y dehongliad personol o fywyd a gwaith T. James Jones – Jim Parc Nest – yn apelgar a gwahanol. Gwyddys fod hunangofiannau’n gwerthu’n lleng, a bu galw mawr yn y blynyddoedd diweddar am gofiannau swmpus hefyd – meddyliwch am Saunders, Kate, Bob, Waldo a’r cewri un enw eraill. Yn y gyfrol hon, priodwyd yr hunangofiant poblogaidd gyda’r cofiant swmpus, gan ofyn i’r gwrthrych ddadansoddi’i fywyd a’i waith ei hun. Tipyn o her! Ar y cyfan, mae’r gyfrol yn llwyddo, ond mae hynny am fod yma wrthrych penigamp i gychwyn y gyfres. Ceir dadansoddi treiddgar o ddylanwadau ei fagwraeth ar y llenor, a dyfynnu helaeth (rhy helaeth weithiau) ar ei gerddi. I mi, y penodau gorau oedd y rheiny ble’r âi Jim i’r afael â’i ysgogiad – ei berthynas â gwaith Dylan Thomas, er enghraifft; cafwyd penodau llai gafaelgar tua diwedd y llyfr, ble dododd ei hun mewn magl o ddechrau dyfynnu teyrngedau i aelodau’r teulu, a gorfod dal ati – rhag pechu neb, o bosib. Dyma gyfrol a fydd at ddant darllenwyr hunangofiannau, cofiannau a barddoniaeth. Os yw’r cerddi’n ormod o bwdin i chi, anwybyddwch nhw a pheidiwch â gadael iddyn nhw amharu ar lif y naratif. Ond byddwch ar eich colled, oherwydd mae hi’n werth dyfalbarhau â nhw – mor ardderchog o fardd yw T. James Jones, a chymaint y dylanwadodd ei fywyd ar ei waith. Barthes? Bu yntau farw yn 1980 ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821056495990,"sku":"9781906396800","price":19.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781906396800.jpg?v=1790363329","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-llenorion-cymru-1-jim-parc-nest-9781906396800","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}