{"product_id":"cyfres-fflach-doniol-tricsi-a-dicsi-9781784231354","title":"Cyfres Fflach Doniol: Tricsi a Dicsi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDaw pob math o helyntion a throeon trwstan i ran Ow a Dicsi a Bopa Tricsi wrth iddyn nhw deithio o Decsas bell i Gaerdydd am wythnos o wyliau. Mae Sharon wrth eu bodd yn cael cwmni ei modryb a'i hewythr hynod,ond a fydd Dad yn medru cadw ei dymer am wythnos gyfan, tybed?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOw, Dicsi and Bopa Tricsi encounter many thrills and spills as they travel from Texas to Cardiff for a week's holiday. Sharon is very happy to see her strange aunt and uncle, but will Dad be able to control his temper for a whole week?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784231354\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784231354\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Fflach Doniol: Tricsi a Dicsi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorgan, Gwyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-03-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOwen, Dai\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e64 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 188 mm; depth 5 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Sharon Llewelyn yn gyffro i gyd am fod ei hewythr a’i modryb hynod, Owa Dicsi a Bopa Tricsi Rollercoaster, ar fin cyrraedd am wythnos o wyliau yng Nghaerdydd, yr holl ffordd o Decsas yn yr U.S of A . Ond mae ymateb Mam a Dad i’r ymweliad braidd yn wahanol, a dweud y lleiaf. Mae’r newyddion yn achosi panig llwyr – a hynny cyn i’r ddau gyrraedd, hyd yn oed. Ond mae ganddyn nhw flwyddyn i baratoi, ac mae’r gwaith yn dechrau’n syth, gan gynnwys peintio, adnewyddu, trwsio, siopa, addurno a gwario llwyth o arian, yn enwedig felly yn IKEA, heb sôn am drefnu amserlenni ac ymweliadau i bob cwr o Gymru. Ac yna, mae’r ymwelwyr yn cyrraedd, a gweddill y gyfrol yn dilyn helyntion Sharon, Mam a Dad wrth iddyn nhw geisio diddanu’r unigryw Dicsi a Tricsi. Mae eu hanturiaethau’n mynd â nhw o’r ardd gefn i barti yn y Stiwt, cyn mentro i Rosili, Sir Benfro a Thyddewi, Castell Caerffili, y capel a chanol Caerdydd. A wir i chi, mae pob munud o bob diwrnod yn llawn digwyddiadau doniol a digri sy’n siŵr o oglais synnwyr digrifwch darllenwyr o bob oed. Drwy’r cyfan, mae Dad yn cyfrif y dyddiau tan i’r ddau gymeriad unigryw o Decsas neidio mewn tacsi a dychwelyd adref! Ac mae’r rhyddhad o ffarwelio â’r ddau’n amlwg ar wyneb pawb arall hefyd, hynny yw, nes iddyn nhw agor yr anrheg y mae Owa Dicsi a Bopa Tricsi wedi ei adael iddyn nhw fel diolch. Ond stori arall yw honno! Cawl o ddoniolwch, hiwmor a throeon trwstan yw’r gyfrol ddiweddaraf hon o waith yr awdur poblogaidd, Gwyn Morgan, yn y gyfres Fflach Doniol. Mae’r awdur yn feistr ar y math yma o stori, sydd wedi ei llunio y tro hwn ar ffurf bras dyddiadur Sharon. Pwy all anghofio cymeriadau eraill o’i waith yn yr un gyfres, yn cynnwys Pogo Ping Pong, Kate, Bet a Giles, a Dyg a Dêf Diawledig, i enwi dim ond rhai. A chydag arlunwaith trawiadol Dai Owen yn dod â’r hiwmor yn fyw o flaen ein llygaid, dyma gyfrol fydd yn siŵr o ddenu sylw hyd yn oed y darllenwyr mwyaf anfoddog. Fe allai diwyg y gyfrol fod yn fwy twt mewn ambell fan, ond mae naws siang-di-fang y stori a’r cartwnau gwyllt a gwallgo’n gwthio hynny i gefn y meddwl. Heb os, bydd bwrlwm y cymeriadau a’r anturiaethau lliwgar yn aros yn hir yn y cof!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819815866742,"sku":"9781784231354","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784231354_1ab482bf-6299-4364-9aa0-102326b0e39e.jpg?v=1790353730","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-fflach-doniol-tricsi-a-dicsi-9781784231354","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}