{"product_id":"cyfres-fflach-doniol-gwyliau-pitw-9781855969995","title":"Cyfres Fflach Doniol: Gwyliau Pitw","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori ddoniol gan awdur poblogaidd yn cyflwyno anturiaethau Pitw, bachgen dyfeisgar sy'n cynllunio taith llawn halibalŵ heb symud o'r unfan, mewn ymgais i ennill digon o arian er mwyn i'w deulu gael dau pen llinyn ynghyd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA humorous story by a popular author presenting the adventures of Pitw, a resourceful boy who designs a journey full of pandemonium without moving from home, in an attempt to win enough money to make ends meet for his family.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781855969995\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781855969995\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Fflach Doniol: Gwyliau Pitw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorgan, Gwyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-04-25\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e64 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr doniol a hwyliog yw Gwyliau Pitw gan Gwyn Morgan. Cawn glawr lliwgar a deniadol gan Dai Owen sy’n gwneud ichi ysu i’w ddarllen. Y cymeriadau yw Pitw, Idris, Pat, Mr Patel a’i deulu a Geraint sef GPR. Mae Idris, tad Pitw, yn ddyn pwyllog a brwdfrydig. Bachgen hapus a gweithgar yw Pitw sy’n llawn syniadau ac yn datblygu ei sgiliau i fod yn entrepreneur ! Mae Pat, mam Pitw hefyd yn weithgar a phob amser yn brysur iawn. GPR yw ffrind pennaf Pitw ac mae’n fachgen caredig a brwdfrydig. Ond dydy bywyd ddim yn fêl i gyd; yn anffodus mae Idris yn colli ei waith gan fod adran y brifysgol yn cau. Felly mae’r teulu oll yn gorfod arbed arian. Yn y gorffennol roedd y teulu yn cael digonedd o bopeth, megis gwyliau moethus i ynysoedd pell. Mae Pitw angen cynllunio sut i wneud arian er mwyn cael bywyd moethus unwaith eto. Er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd mae Pitw yn mentro cychwyn busnes gyda chymorth GPR. Cawn antur gyda’r ddau wrth iddynt geisio creu gwyliau moethus llawn hwyl a sbri, a gwyliau cyffrous a hudolus heb symud o’r unfan! Yna, un, dau, tri i ffwrdd â nhw i Fecsico gyda theulu Dr Patel. Mae pawb yn ymuno yn yr hwyl i deithio’r byd gan chwarae rôl. Felly, i ffwrdd â chi hefyd ar eich gwyliau gyda Pitw a’i gyfeillion. Mae Gwyn Morgan wedi llwyddo i ddefnyddio iaith gyfoethog, lawn priod-ddulliau. Dyma lyfr apelgar sydd â lluniau du a gwyn deniadol gan Dai Owen. Yn fy marn i mae’r llyfr yn addas i blant sydd â meddwl dychmygus a byrlymus. Stori addas i'w ddarllen i blant rhwng 5 a 7 mlwydd oed yw hon er mwyn sicrhau eu bod yn ei deall, a gall ddarllenwyr hŷn ddarllen y print mân yn annibynnol. Felly paciwch eich bagiau a neidiwch i ganol meddwl llawn dychymyg Pitw, a mwynhewch eich gwyliau moethus ym Mecsico!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820947181942,"sku":"9781855969995","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781855969995.jpg?v=1790362544","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-fflach-doniol-gwyliau-pitw-9781855969995","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}