{"product_id":"cyfres-cyw-bolgi-a-r-wyn-bach-9781800990593","title":"Cyfres Cyw: Bolgi a'r Ŵyn Bach","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Bolgi a chriw Cyw yn dysgu gwers bwysig iawn pan maen nhw'n gofalu am oen bach gwyn ac oen bach du. Llyfr newydd yn y gyfres o lyfrau sy'n adrodd hanes Cyw a'i ffrindiau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBolgi and Cyw's friends learn an important lesson when they look after two little lambs, a white and a black lamb. A new title in the series of books about Cyw and her friends.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800990593\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800990593\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Cyw: Bolgi a'r Ŵyn Bach\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlŷn, Anni\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-03-08\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e24 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 × 210 mm; depth 2 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Anni Llŷn yn wyneb cyfarwydd ar y teledu fel cyflwynydd ac actores. Bu'n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd ac mae wedi cynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Cafodd ei magu ym Mhen Llŷn ac ar ôl cyfnod yng Nghaerdydd mae hi a'i gŵr wedi symud yn ôl i'w hardal enedigol i fagu teulu.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAnni Llŷn is a familiar face on television as a presenter and actress. She was the Welsh Children's Poet for two years and has held workshops in primary and secondary schools throughout Wales. She was brought up in Pen Llŷn and after a period in Cardiff she and her husband have moved back to their native area to raise a family.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma lyfr newydd arall yng nghyfres hynod o boblogaidd Cyw, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur profiadol, Anni Llŷn. Dyma gyfle eto i fynd i fyd cyfarwydd Cyw a chwrdd eto â hen ffrindiau fel Llew, Plwmp, Deryn, Jangl ac wrth gwrs Bolgi’r ci. Mantais y gyfres yw bod plant yn hen gyfarwydd gyda Cyw a’i ffrindiau yn barod ac mae’n frand sy’n adnabyddus i rieni. Y tro hwn, mae Bolgi yn diogi ac yn gorweddian ar y soffa tra mae pawb arall yn helpu i lanhau. Does dim byd yn ei blesio, tan mae Cyw yn cyhoeddi bod Guto’r Ffermwr am i Cyw a’r criw ofalu am oen bach newydd. Mae Bolgi’n codi’n sydyn ac yn cyffroi’n lân wrth iddo hel atgofion melys o’r cyfnod diwethaf pan ddaeth oen bach i aros. Neges bwysig, hynod amserol am amrywiaeth, cydraddoldeb ac amlddiwylliant sydd dan sylw yn y llyfr hwn ac fe gaiff ei chyfleu mewn ffordd annwyl ac effeithiol. Yn wahanol i’r oen bach diwethaf, oedd yn wyn, mae’r oen newydd yn ddu, gyda chot o wlân tywyll a chyrliog. Dydi Bolgi ddim yn siŵr iawn a fydd yr oen newydd yn hoffi’r un pethau â’r oen diwethaf ddaeth i aros, ond buan y daw i sylweddoli bod yr oen hwn hefyd yn hoffi peintio, padlo a chael stori. Maen nhw’n mwynhau gwneud yr un pethau a chaiff y ddau oriau o hwyl. A dweud y gwir, gwna’r oen bach newydd ambell beth yn wahanol hefyd, sydd yn gyfle i gael hyd yn oed mwy o hwyl. Am ffordd fendigedig o ddangos i blant ifanc bod amrywiaeth yn rhywbeth i’w drysori a'i fod yn cyfoethogi bywyd mewn cymaint o ffyrdd. Wrth ddod ar draws sefyllfaoedd newydd neu anghyfarwydd, mae’n bosib y bydd plant ifanc yn chwilfrydig am bobl sy’n wahanol iddyn nhw. Bydd y llyfr lliwgar yma’n helpu i ddangos iddynt na ddylid ofni rhywbeth newydd neu wahanol, a bod y gwahaniaethau rhyngom yn bethau i’w dathlu a’u clodfori.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820259185014,"sku":"9781800990593","price":3.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800990593_3f1b6753-18a1-42ad-be83-217898b91bbb.jpg?v=1790354980","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-cyw-bolgi-a-r-wyn-bach-9781800990593","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}