{"product_id":"cyfres-cyffro-herio-9781847714534","title":"Cyfres Cyffro!: Herio!","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHanes y Gêmau Olympaidd, a llawer mwy, mewn cartwnau Manga lliwgar. Addas i blant 7-11 oed yn bennaf.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe history of the Olympic Games, and lots more, in colourful Manga cartoons. Suitable for children between 7 and 11 years of age.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847714534\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847714534\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Cyffro!: Herio!\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Meinir Wyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-07-11\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGlyn, Sioned\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e151 × 240 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr Campus i Ddathlu’r Gêmau Olympaidd! Mae hanes y Gêmau Olympaidd, sydd ar fin dechrau yn Llundain, ymhlith nifer o straeon lliwgar sydd i’w canfod mewn llyfr cartŵn newydd, o’r enw Herio! Dyma’r ail gyfrol yng Nghyfres Cyffro, yn dilyn Morio! a gyhoeddwyd i gyd-fynd â chanmlwyddiant suddo’r Titanic. Yn ogystal â hanes y Gêmau Olympaidd hyd heddiw, ceir llond lle o straeon penigamp eraill yn Herio! gan gynnwys chwedl 12 tasg Herciwles a ddechreuodd yr Olympau cyntaf fel teyrnged i'w dad, Zews; Y Gêmau Paralympaidd, Gêmau’r Gaeaf, hanes y logo, masgots, y fflam Olympaidd a hanes Guto Nythbrân. Mae’r gyfres wedi’i hanelu at blant rhwng 7 ac 11 oed, ac yn ffordd ddifyr o ddysgu hanes ac i ennyn darllen er pleser. Mae cartwnydd y gyfres, Sioned Glyn, yn athrawes gelf, dylunio a graffeg yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, a hi yw'r unig un i gyhoeddi cartwnau Cymraeg yn y dull Manga, dull sy’n deillio o Siapan yn wreiddiol. Meinir Wyn Edwards yw awdur Herio! , ac mae’n awdures brofiadol. Hyd yma mae ganddi dros 20 o lyfrau i’w henw. Daw Meinir o Sir Benfro yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi a’r teulu wedi ymgartrefu yn Llandre, ger Bow Street ac mae’n gweithio fel Golygydd i wasg y Lolfa. Meddai Meinir, “Mae’r prosiect Cyfres Cyffro yn her a hanner i’w sgwennu. Gan fod y llyfrau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau go iawn, rhaid ymchwilio’n fanwl a sicrhau bod y ffeithiau hanesyddol yn gywir. Y dasg wedyn yw ceisio crynhoi’r holl wybodaeth a’i wneud yn ddiddorol ac yn weladwy i blant. Yn Herio! penderfynais gynnwys hen chwedl Roegaidd am Herciwles i ddod â chyffro a lliw a thipyn o waed! Mae hynny wedyn yn arwain at ddechrau’r Gêmau gwreiddiol yn Olympia, ac yna at ffeithiau difyr, gwallgo a gwirion am y gemau modern a ddechreuodd yn Athen yn 1896 gyda 241 o gystadleuwyr. Erbyn heddiw mae’r nifer wedi cynyddu i dros 10,000! I ddod â gogwydd Gymreig i’r gyfrol roedd stori Guto Nythbrân yn cynnig ei hun yn naturiol - Cymro a allai roi ras i Usain Bolt unrhyw ddiwrnod!” Bydd 3 cyfrol arall yn y gyfres yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, yn rhoi hanes damweiniau tanddaearol Senghennydd yn 1914 a Chile yn 2010; cymharu digwyddiadau’r Ail Ryfel Byd o safbwynt bachgen yng nghanol y Blits yn Abertawe ac Anne Frank; ac yna rhoi stori Cantre’r Gwaelod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820827545974,"sku":"9781847714534","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847714534_c2c9b67b-f9bf-4b4d-b3db-5deac7b34932.jpg?v=1790361028","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-cyffro-herio-9781847714534","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}