{"product_id":"cyfres-clasuron-dail-pren-9781848512931","title":"Cyfres Clasuron: Dail Pren","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eArgraffiad newydd o gerddi Waldo. Yn cynnwys cyflwyniad gan Mererid Hopwood. Cyhoeddwyd y casgliad yn wreiddiol ym 1956. ISBN yr argraffiad blaenorol: 9780863837111. Dail Pren yw un o gyfrolau barddoniaeth pwysicaf yr ugeinfed ganrif â'i dylanwad yn para hyd heddiw. Oherwydd grym diffuantrwydd canu Waldo Williams, mae apêl oesol i'r casgliad hwn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA new edition of the poems of Waldo Williams, with an introduction by Mererid Hopwood. Originally published in 1956. ISBN of previous edition: 9780863837111.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848512931\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848512931\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Clasuron: Dail Pren\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Waldo\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-11-03\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e104 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 × 210 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eUn o glasuron llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yw Dail Pren Waldo Williams. Dylanwadodd y gyfrol fach hon yn drwm ar feddylfryd ei dydd, a phery ei hapêl hyd y dydd hwn. Bendithiwyd Waldo Goronwy Williams â’r ddawn i lunio cerddi grymus sy’n atseinio â didwylledd argyhoeddiad, gan osgoi pob arlliw o dueddiad llenorion llai i dincial cyfres o ymadroddion cloff. Y cryfder didwylledd hwn a enillodd i’r bardd le parhaol yng nghalon y Cymry llengar. Nid yw’n syndod felly fod Gomer wedi cyhoeddi Dail Pren mewn argraffiad hynod hardd, a’r cyntaf mewn cyfres newydd sy’n dwyn y teitl Clasuron Gomer. Lluniwyd rhagymadrodd gwerthfawr i’r argraffiad hwn gan Mererid Hopwood. Ynddo esbonnir pwyslais Waldo ar y cysylltiad ‘rhwng yr eiliad fach a’r awr fawr dragwyddol’. Profiad y bardd yw fod hir fyfyrio yn esgor ar amrantiad o ddatguddiad sydyn; yna fe syrth yn ôl i dawelwch disgwylgar gan aros am ymweliad arall ac am eiliad arall sy’n egluro. Yn y modd hwn ‘mae’r eiliad a thragwyddoldeb yn dod at ei gilydd’. Trafodir hefyd fel y ‘mae’r pell a’r agos’ yn dod at ei gilydd. Yn ‘Horeb Mynydd Duw’, y gerdd gyntaf iddo ei chyhoeddi erioed, dywed Hopwood yn ei rhagymadrodd fod y bardd yn “gofyn am gael rhwygo muriau ‘cul y gell’ i gael gweld bro’r ‘gorwelion pell’ a byd ‘yr eangderau gwell’”. Wrth feithrin amynedd a disgwylgarwch, ceir mynych eiliadau sy’n cyffwrdd. Dyluniwyd y gyfrol gan Olwen Fowler, a hi hefyd a luniodd logo'r gyfres hon. Gwyddom ei bod yn feistres ar ei chrefft, ac mae ceinder ei gwaith yn rhoi urddas pellach i’r cyhoeddiad hwn. Ar y clawr defnyddiwyd delwedd D. J. Morris o’r pren, fel y gwnaed yn y cyhoeddiad gwreiddiol yn 1956, a rhoddir yr argraff fod i’r gyfrol rwymiad chwarter lledr. O graffu gellir canfod sawl manylyn diddorol sy’n rhoi synnwyr o foethusrwydd i’r gyfrol, ac yn hollbwysig mae gafael a theimlad y llyfr yn y llaw yn gyfforddus braf. Yn sicr, dyma argraffiad y dylai pawb ei brynu oherwydd y cynnwys, y diwyg, ac oherwydd y talp o Gymreictod, hanesyddol erbyn hyn lawer ohono ysywaeth, y mae’n ei gynrychioli. Efallai ein bod wedi darllen Dail Pren droeon cyn hyn, ond dichon fod ynddo o hyd berlau lu na sylwasom arnynt o’r blaen.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820851335542,"sku":"9781848512931","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848512931_0414ebfc-cfb2-424c-b76b-e37d31f60e2c.jpg?v=1790361281","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-clasuron-dail-pren-9781848512931","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}