{"product_id":"cyfres-cerddi-gwalch-3-salwch-odli-9781845274382","title":"Cyfres Cerddi Gwalch: 3. Salwch Odli","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY drydedd gyfrol mewn cyfres o lyfrau barddoniaeth lliw llawn. Casgliad difyr gan Margiad Roberts a fu'n o gyfranwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd y gyfres Cerddi Lloerig dros y blynyddoedd. Mae ei cherddi ffraeth yn apelio'n fawr at blant oedran cynradd - cerddi i godi gwên ac awydd ar blant i sgwennu eu hunain. Mae'r llyfr yn llawn i'r ymylon â lluniau bywiog Helen Flook.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe third volume of a series of full colour illustrated poetry books for primary school children. This volume comprises a humorous collection of appealing poems by Margiad Roberts, with lively illustrations by Helen Flook.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845274382\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845274382\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Cerddi Gwalch: 3. Salwch Odli\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Margiad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-06-11\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFlook, Helen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCynllun sydd wedi talu ar ei ganfed yw cynllun Bardd Plant Cymru a sefydlwyd yn ôl yn 2000. Nod y cynllun yw annog plant a phobl ifanc i fwynhau a chreu barddoniaeth. Oddi ar sefydlu’r cynllun cyhoeddwyd cnwd o lyfrau barddoniaeth i blant yn cynnwys y dwys a’r digri. Wel, dyma gyfrol arall i’w mwynhau – llond trol o gerddi i wneud i chi rowlio chwerthin wrth ddarllen ‘y geiria bach joli\/ sy’n codi o rwla’n eich bol chi’. Mae yma gerddi yn null yr hen benillion a limrigau doniol – ffurf a boblogeiddiwyd gan Edward Lear yn ei A Book of Nonsense (1846). Mae yma ddwyster hefyd, megis y gerdd ‘Bocsys cardbord,’ sy’n cymharu ein Nadolig gorlawn ni â Nadolig llwm plant y stryd. Ond mae yma wledd arall yn eich disgwyl, sef darluniau lliw-llawn, llawn hiwmor, Helen Flook – priodas berffaith rhwng gair a llun. Dyma gyfrol addas i’r cartref ac i’r dosbarth i ysgogi plant i roi geiriau sy’n odli at ei gilydd i greu pennill neu gerdd, waeth pa mor bisâr ydyw. A beth all y canlyniad hirdymor fod? Wel, ’ennill sêt bren am farddoni’, yn ôl y llyfr hwn. Afraid fyddai dyfynnu rhai cerddi rhag difetha’r hwyl; wedi'r cyfan, chi biau’r mwynhad o’u darllen. Cyfrol werth chweil – mynnwch gopi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820635754870,"sku":"9781845274382","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845274382_6f5681c6-2041-40ba-b918-0796d7cc8af5.jpg?v=1790358983","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-cerddi-gwalch-3-salwch-odli-9781845274382","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}