{"product_id":"cyfres-celc-cymru-brwydrau-dros-gymru-9781845275990","title":"Cyfres Celc Cymru: Brwydrau dros Gymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy Gymru gan ddangos meysydd ein hanes inni drwy gyfrwng brwydrau'r gorffennol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845275990\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845275990\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Celc Cymru: Brwydrau dros Gymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDafydd, Myrddin ap\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-03-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e155 × 150 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C019670\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYm mhob cwr o Gymru mae olion brwydrau – rhai ohonynt yn 2,000 o flynyddoedd oed. Wrth wynebu’r Rhufeiniaid ar Gaer Caradog, y Gwyddelod ym Môn, Y Sacsoniaid ar Glawdd Offa, y Llychlynwyr ar forfa Llandudno a’r Normaniaid a’u cestyll, roedd byddinoedd brenhinoedd a thywysogion Cymru yn ymladd dros ddyfodol ar y tir hwn. Brwydrau dros Gymru a’i phobl oeddent, a pharhau mae’r ymgyrchoedd drwy’r ymrafael diwydiannol, boddi cymoedd a’r ymgyrchoedd hawliau iaith. Yn amlach na pheidio, does dim i gofnodi lleoliadau na hanes brwydrau’r gorffennol. Mae’r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy Gymru gan ddangos meysydd ein hanes inni.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol ddigon bychan i’w gwthio i boced côt neu i gornel pecyn cefn yw hon. Mae’n gyfrol, felly, sydd wedi ei llunio nid yn unig i’w darllen ond i’w defnyddio ar daith hefyd. Ceir ynddi sylwadau byr am bymtheg ar hugain o feysydd brwydrau a ystyrir yn arwyddocaol yn hanes Cymru. Mae rhai yn frwydrau yr ydym wedi clywed amdanynt, eraill yn ddim ond enwau llefydd lled gyfarwydd, ac ambell un yn frwydr nad yw'r rhan fwyaf ohonom wedi clywed amdani. Cyfrol gronolegol yw hon, yn dechrau yn OC 51 gyda brwydr yr Allt Gethin, sef brwydr y Brythoniaid dan arweiniad Caradog yn erbyn y Rhufeiniaid, ac yn gorffen gyda brwydr y Beasleys a phrotestiadau Cymdeithas yr Iaith yn ail hanner y ganrif ddiwethaf. Ym mhob pennod fe geir lluniau a disgrifiad bras o’r lleoliad, nodi dwy ochr y frwydr a dyddiad y brwydro. Ceir disgrifiad byr o amgylchiadau’r gwrthdaro, nodir cryfderau a gwendidau y naill ochr a’r llall, ac yna rhoddir peth o hanes y frwydr – pan fo'r manylion hynny ar gael. Yn ychwanegol, dadansoddir arwyddocâd y digwyddiadau yn ogystal. Mae’r mwyafrif o’r brwydrau yn rhai cyn 1405, sef dyddiad brwydr Pwll Melyn rhwng byddin Glyndwr a’r Saeson. Mae saith brwydr fwy diweddar a llai militaraidd yn niwedd y gyfrol, pedair ryddfrydol eu natur o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg a thair genedlaetholgar o’r ugeinfed ganrif. Egwyddor sylfaenol creu’r gyfrol oedd nodi ac atgoffa pobl o leoliadau hanfodol ein hanes. Boed y Cymry yn orchfygwyr neu yn orchfygedig yn y gwahanol frwydrau, y maent wedi llunio ein hanes ac y mae’r disgrifiadau yn lleoli ein hanes. Trwy’r gyfrol hon, nid syniadau yw hanes ond llefydd arbennig i ymweld â hwy a gwerthfawrogi yr hyn a ddigwyddodd yno. Mae’r ysgrifennu’n dda ac yn gynnil a’r wybodaeth yn ddefnyddiol, er nad oes lle i gynnwys mwy nag un ddamcaniaeth am y brwydrau, ond dyma gyfrol hynod werthfawr i ddeall ein hunain a gwerthfawrogi’n hanes. Gallai un ychwanegiad bychan fod wedi gwneud y gyfrol yn fwy defnyddiol i’r ymwelydd, a hynny fyddai cyfeiriadau grid neu god post, ond mater bach yw hwnnw mewn cyfrol hyfryd i fodio drwyddi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820652695926,"sku":"9781845275990","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845275990_7961f1ee-fc1a-4edb-9b77-06e6449ca882.jpg?v=1790359109","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-celc-cymru-brwydrau-dros-gymru-9781845275990","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}