{"product_id":"cyfres-cai-a-lois-ond-ble-n-hollol-ydyn-ni-9781855968837","title":"Cyfres Cai a Lois: Ond Ble'n Hollol Ydyn Ni?","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae gan Cai chwaer fach o'r enw Lois. Maen nhw'n mynd i fforio gyda'i gilydd. Mae Cai'n dweud, Mae'n rhaid i fforwyr baratoi'n iawn bob amser. Ac mae Lois yn dweud, Dw i'n gwybod, Cai. Dyna pam dw i'n mynd â PHOPETH, yn hollol ac yn llwyr rhag ofn. Addasiad Cymraeg o But Where Completely are We?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLois really wants to live in a tent. So Cai and Lois set off on an adventure, but instead of packing explorer essentials like binoculars or string, Lois has brought lots and lots of glitter and pink milk! They head off into the wild, ready to face tigers and bears and go foraging for food. A Welsh adaptation of But Where Completely are We?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781855968837\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781855968837\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Cai a Lois: Ond Ble'n Hollol Ydyn Ni?\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eChild, Lauren\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-04-07\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeek, Elin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e215 × 235 mm; depth 3 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFor babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAddasiad yw hwn o un o lyfrau’r gyfres ‘Charlie and Lola’ gan Lauren Child. Mae fy mechgyn 6 ac 8 mlwydd oed wedi cyd-adolygu’r llyfr hwn ac, a ninnau yng nghyfnod Cwpan y Byd, mae sticeri Panini a chardiau MatchAttax yn hynod boblogaidd yn ein tŷ ni. Felly, roedd llyfr yn cynnwys sticeri yn sicr yn apelio, wrth i mi eu hannog i ddarllen gyda mi. Mae’r lluniau lliwgar yn llwyddo i ddenu sylw, ac i blant sy’n magu mwy a mwy o hyder wrth ddarllen eu hunain, mae’r gallu i ddarllen geiriau sy’n igam-ogam a phen i waered yn cadw’r meddwl yn effro! Ac mae newid maint yr ysgrifen er mwyn pwysleisio rhai geiriau hefyd yn fodd o ddal dychymyg plentyn, a hwyluso’r dasg iddyn nhw. Mae Cai a Lois yn mynd ar daith antur yn eu pabell, gan deithio drwy stormydd eira, trwy law trofannol, trwy afonydd, i’r anialwch ac i goedwig law’r Amason. Rhaid cyfaddef nad yw dilyn rhediad y stori wastad yn rhwydd, gyda rhai geiriau yn anghyfarwydd i’r bechgyn, a mam hefyd yn gorfod meddwl yn go galed cyn cynnig eglurhad. Addasiad sydd yma wrth gwrs, ac mae hynny’n amlwg tua diwedd y stori, pan gaiff Lois enw newydd ... Lola! Ond wedi dweud hynny, roedd yna gynnwrf mawr o weld y dudalen olaf yn llawn sticeri. A bydd y sticer ‘Dwi’n dwlu’n llwyr ar wersylla’ yn teithio gyda ni ar ein gwyliau eleni, rhag ofn i’n pabell ni rwygo unwaith eto ac y byddwn ni angen llenwi twll bychan!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820942987638,"sku":"9781855968837","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781855968837_5e9a361d-fc76-47e1-878d-15907f0b19b9.jpg?v=1790362477","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-cai-a-lois-ond-ble-n-hollol-ydyn-ni-9781855968837","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}