{"product_id":"cyfres-bananas-glas-nefydd-y-marchog-drygionus-a-r-ceffyl-hedegog-9781784230753","title":"Cyfres Bananas Glas: Nefydd y Marchog Drygionus a'r Ceffyl Hedegog","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'n ddiwrnod y twrnamaint yng Nghastell Crecian, ond a all Dilys y Ddraig gadw Nefydd, y marchog drygionus, rhag mynd i helynt? Addasiad Cymraeg o Norman the Naughty Knight and the Flying Horse by Elin Meek.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIt's the day of the jousting tournament in Crecian Castle, but will Dilys the Dragon succeed in keeping Nefydd, the mischievous knight, out of trouble? A Welsh adaptation of Norman the Naughty Knight and the Flying Horse by Elin Meek.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784230753\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784230753\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Bananas Glas: Nefydd y Marchog Drygionus a'r Ceffyl Hedegog\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePrasadam-Halls, Smriti\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOut of print\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAllan o brint\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-03-17\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeek, Elin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSmith, Ian\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e150 × 200 mm; depth 3 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMarchog bychan yw Nefydd ond mae ganddo ambell i stori fawr! Dyma lyfr llawn cyffro a sbri o gyfres Bananas Glas, gwasg y Dref Wen a gaiff ei anelu at ddarllenwyr cynnar. Yn bendant roedd y llinyn stori yma yn ddigon i gynnal sylw fy merch 5 (a hanner!) oed dros sawl noson; cam ymlaen o lyfrau darllen mwy diflas y gellid eu gorffen mewn un eisteddiad, sydd yn aml â’r testun ar gefndir plaen ar un dudalen a’r llun ar y dudalen gyferbyn. Ond yn Nefydd y Marchog Drygionus a’r Ceffyl Hedegog , mae’r testun wedi ei osod yn ddeniadol o amgylch y tudalennau, gyda’r lluniau lliwgar, digri yn dod â’r stori yn fyw. Mae hi’n ddiwrnod y twrnamaint yng Nghastell Crecian ac mae brolio gwag Nefydd wedi arwain ato’n cael ei ddewis i gymryd rhan. Er gwaetha’r ymarfer, mae’n profi’n anobeithiol gyda gwaywffon, a phan mae Clop, ei geffyl yn rhedeg i ffwrdd mewn braw mae’n rhaid i Dilys y ddraig anwes gamu i’r adwy... ond mae gan ddraig un fantais fawr dros y Marchog Coch a’i geffyl... pâr o adenydd! Mae’r llyfr hwn gyda’i swigod siarad a’i frawddegau byrion yn benthyg ei hun yn dda i rannu’r darllen fel y gwnes i a Lois y tro hwn, ond wrth iddi fynd yn hŷn dwi’n siwr y caiff fwynhad o ddarllen y cyfan ar ei phen ei hun. Roedd hi’n mwynhau dysgu ystyr nifer o eiriau newydd megis ‘carlamu’, ‘twrnamaint’ ac ‘arfwisg’ ac roedd enwau doniol rhai o’r cymeriadau megis ‘Syr Prys Pants Swnllyd’ wedi peri iddi chwerthin allan yn uchel! Yng ngeiriau Lois: “Fy hoff ran i oedd pan aeth helmed Nefydd yn sownd yn ei arfwisg ar ddechrau’r ymryson, a’r marchog arall yn rhedeg oddi ar y cae gan weiddi ‘Help! Help! Y Marchog Heb Ben!’ ...a hefyd pan oedd Dilys yn eistedd ar Nefydd bob tro yr adroddai stori RHY ddwl – ha ha!” Er bod y cyfieithiad yn lletchwith mewn ambell i le (ymryson twrnamaint?) doedd hyn yn tynnu dim oddi ar y mwynhad. Heb os, bydd y llyfr hwn yn apelio at fechgyn a merched 6+ oed sydd yn hoff o antur a stori dda.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819629056374,"sku":"9781784230753","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784230753.jpg?v=1790352126","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-bananas-glas-nefydd-y-marchog-drygionus-a-r-ceffyl-hedegog-9781784230753","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}