{"product_id":"cyfres-anthony-horowitz-camera-creulon-9781904357186","title":"Cyfres Anthony Horowitz: Camera Creulon","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Matthew wrth ei fodd â'r camera y daeth o hyd iddo mewn arwerthiant cist car, tan iddo ddechrau sylweddoli bod popeth y mae'n tynnu llun ohono yn torri ... neu'n marw. Mae Henry'n dod i'r casgliad fod gan ei gyfrifiadur ei fywyd ei hunan ac nad oes ofn ganddo gymryd siawns - a bywydau! Addasiad Cymraeg o Killer Camera .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTwo spine-chilling short stories by Anthony Horowitz. Matthew is pleased with the camera he finds at a car boot sale - that is until he realises everything he photographs breaks ... or dies. Henry soon finds out that his new computer has a life of its own - and it's not afraid to gamble with people's lives. A Welsh adaptation of Killer Camera .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781904357186\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781904357186\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Anthony Horowitz: Camera Creulon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHorowitz, Anthony\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-09-09\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTBC\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e80 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e197 × 127 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae yna ddwy stori yn y llyfr yma. Y cyntaf yw Camera Creulon a'r ail yw Symud Sydyn . Dwi’n meddwl eu bod yn addas i blant tua 9-12 oed ac yn hŷn. Mae Camera Creulon yn dechrau gyda Matthew King yn prynu camera ail-law i’w dad mewn sêl cist car, ac mae e’n hapus iawn gyda'i anrheg. Ond roedd yn rhyfeddol o rad. Pam hynny? Wrth i Dad Matthew ddechrau tynnu lluniau, mae pethau ofnadwy yn digwydd - mae’r goeden geirios hyfryd yn yr ardd yn marw yn anesboniadwy o sydyn. Ond beth - neu bwy - fydd nesaf? Beth yw dirgelwch y camera? Dwi’n meddwl bod y stori yma yn wych. Mae’n dechrau gyda diwrnod a digwyddiadau cyffredin ac mae’r awdur wedi llwyddo yn y ffordd mae’n creu rhyw fath o uchafbwynt o ofn, gyda'r diweddglo yn iasoer. Mae’r ail stori, Symud Sydyn , am fachgen o’r enw Henri sydd yn cael hen gyfrifiadur ar ôl marwolaeth ffrind ei dad. Mae’r cyfrifiadur hwn yn od iawn. Mae e’n gallu dweud y dyfodol – ac yn rhagweld canlyniadau rasys ceffylau! Mae un o gymeriadau'r stori yn ceisio dwyn y cyfrifiadur, gyda chanlyniadau difrifol iawn i Henri. Er iddi fod yn stori dda iawn, doeddwn ddim yn ei hoffi gymaint â Camera Creulon . Nid yw’r awyrgylch cweit mor frawychus y tro hwn. Mae pethau yn aros yn weddol ‘normal’ tan y dudalen olaf, ond mae rhaid dweud ei bod yn gorffen gyda ‘bang!’ Dwi’n meddwl bod Antony Horowitz yn awdur arbennig o dalentog a bod yr addasiad hwn yn dda iawn hefyd. Bargen am £3.99!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821038014838,"sku":"9781904357186","price":1.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781904357186_cdc5b785-b80c-4a3d-9f20-53aba29c1b1d.jpg?v=1790363175","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-anthony-horowitz-camera-creulon-9781904357186","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}