{"product_id":"cyfres-amdani-yn-ei-gwsg-9781912261307","title":"Cyfres Amdani: Yn ei Gwsg","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylaen. Nofel wreiddiol gan Bethan Gwanas. Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg, ac un bore, mae'n deffro yn waed i gyd. Mae'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'r tŷ a thrwy'r pentref ac yn darganfod Mrs Roberts a'i zimmerframe ar ochr y ffordd wedi'i tharo gan gar. Pwy sydd wedi ei tharo? Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA book for Welsh learners, Foundation Level, being an original novel by Bethan Gwanas. Dafydd sleepwalks, and awakes one morning covered in blood. He follows bloody footprints out of the house and through the village to find Mrs Roberts at the roadside after a hit-and-run case. Who has hit her and will the police arrest the culprit? Reprint. First Published in 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912261307\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912261307\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Amdani: Yn ei Gwsg\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwanas, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-11-06\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAtebol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e64 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 × 210 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eEwch i https:\/\/parallel.cymru\/bethan-gwanas-awdures-ydw-i ddarllen mwy am Bethan Gwanas.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eVisit https:\/\/parallel.cymru\/bethan-gwanas-awdures-ydw-i for more information.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen yw hon, sy'n rhan o'r gyfres newydd Amdani ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae nifer o lyfrau yn y gyfres wedi eu cyhoeddi gyda mwy ar y gweill, ac maen nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel, sef Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, i gyd-fynd â’r cyrsiau dysgu Cymraeg cenedlaethol newydd. Ro'n i'n edrych ymlaen at ddarllen Yn Ei Gwsg gan i mi fwynhau darllen y gyfres o nofelau Blodwen Jones gan Bethan Gwanas pan o'n i'n gwneud lefel Sylfaen – nofelau doniol, bywiog a hawdd i'w darllen gyda geirfa Cymraeg\/Saesneg ar waelod pob tudalen. Ro'n nhw'n wych o ran adolygu patrymau a geirfa, dysgu geirfa newydd ac, yn bwysicach fyth, o ran darllen am fywyd bob dydd mewn iaith eitha syml a dealladwy. Ceir yr un peth gyda'r nofel hon. Mae'n ddoniol, bywiog a hawdd ei darllen. Mae'r stori am ddyn o'r enw Dafydd sy'n cerdded yn ei gwsg, a'i gi Wmffra sy ddim yn cerdded yn ei gwsg. Un bore, mae Dafydd yn deffro ac yn cael sioc ofnadwy – mae gwaed dros y lle i gyd, gan gynnwys drosto fe'i hun. Er mwyn trio deall beth ddigwyddodd mae e'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'i dŷ a thrwy'r pentref. Mae e'n dod o hyd i'w gymydog Mrs Roberts a'i ffrâm gerdded ar ochr y ffordd. Mae'n ymddangos, yn ôl pob tebyg, ei bod hi wedi'i tharo gan gar. Dyw Dafydd ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd, felly mae e'n mynd ati, gyda help gan Wmffra, i drio datrys y dirgelwch. Wnaeth Dafydd rywbeth ofnadwy yn ei gwsg? Dy'n ni'n clywed am gwpl o bethau mae e wedi eu gwneud yn ei gwsg yn y gorffennol, ond beth ddigwyddodd y tro yma? Ddaw e o hyd i'r ateb? Mae'r nofel yn symud ymlaen yn gyflym wrth i Dafydd geisio datrys y dirgelwch. Mewn ffordd ysgafn, ond gyda sensitifrwydd, mae'r nofel yn delio â themâu megis perthynas, cyfeillgarwch, cariad, teyrngarwch, unigrwydd a cholled. Mae'r penodau'n fyr ac mae tro yn y gynffon ar ddiwedd y llyfr (nid cynffon Wmffra, dw i'n prysuro i'w ychwanegu!). Yn ogystal â geirfa Cymraeg\/Saesneg ar waelod pob tudalen mae rhestr eirfa Cymraeg\/Saesneg yng nghefn y llyfr hefyd, ac mae'r nofel wedi'i darlunio gan Huw Aaron. I grynhoi, dyma lyfr gwych ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen ond byddwn i'n argymell y dylai dysgwyr ar lefelau uwch ddarllen y nofel er mwyn adolygu patrymau a geirfa, mwynhau'r stori – a chefnogi'r diwydiant cyhoeddi ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Dw i'n edrych ymlaen at ddarllen gweddill y llyfrau yn y gyfres!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821143134582,"sku":"9781912261307","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912261307_0e38b869-85e0-49f3-9fe6-2642f04dc803.jpg?v=1790364996","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-amdani-yn-ei-gwsg-9781912261307","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}