{"product_id":"cyfres-amdani-trwy-r-ffenestri-9781912261437","title":"Cyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o Windows of the Mind gan Frank Brennan. Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siŵr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymhleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA book for Welsh learners, Advanced Level. A collection of diverse short stories, being a Welsh adaption of Windows of the Mind by Frank Brennan. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912261437\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912261437\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Amdani: Trwy'r Ffenestri\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRos, Manon Steffan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-03-07\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAtebol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e108 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 × 210 mm; depth 8 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBeth sydd gennym yn Trwy’r Ffenestri ydy casgliad diddorol o straeon byrion, pob un ohonyn nhw'n cynnig rhywbeth gwahanol i’r darllenydd. Yr uchafbwynt ynddynt ydy 'Agor Drysau', sef stori fer sydd yn dweud hanes menyw ddall ac mae hi wedi cael y cyfle i gael llawdriniaeth er mwyn gweld y byd mae hi wedi bod yn ei golli erioed. Mae’r stori hon yn sefyll allan oddi wrth y gweddill ac fe'm cefais fy hun yn gobeithio y byddai Frank Brennan yn ysgrifennu fersiwn hirach o’r stori hon. Mae gweddill y straeon yn mynd heibio yn eithaf cyflym ac yn glod i’r gwaith addasu gan Manon Steffan Ros, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog trwy wneud i chi deimlo fod y straeon yn digwydd mewn amgylchedd Cymraeg a Chymreig. Mae’r ddeialog yn gredadwy ac yn teimlo'n realistig. Mae’r tîm ysgrifennu yn gweithio yn dda gyda’i gilydd, ac mae Manon, sydd yn awdur gwych ei hunan, yn gwneud gwaith hawdd o addasu geiriau Brennan a dod â'r cyfan yn fyw, a hynny efo chwistrelliad bach o'i phersonoliaeth ei hun. Yn fy marn i, daw uchafbwynt arall yn y stori olaf, 'Cyffyrddiad Ysgafn', sef stori rybuddiol am y peryglon o ddilyn y dorf pan ddylech chi wybod yn well. Dyma stori arall roeddech yn gobeithio y byddai Brennan yn ei thrawsnewid yn stori hir. Rydw i’n edrych ar gasgliadau straeon byr fel record hir, neu albwm gerddorol. Beth fyddech yn ei gael hefo Trwy’r Ffenestri ydy casgliad o straeon diddorol, fel traciau neu ganeuon unigol, a hefyd byddech yn cael uchafbwyntiau fel 'Agor Drysau', 'Cyffyrddiad Ysgafn', a’r stori gyntaf, 'Fel Hen Win', un sydd yn edrych ar y cysylltiadau sydd ynghlwm wrth gytundeb busnes. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen ar lefel uwch yn gyfforddus, ac efallai’r rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau darllen. Doeddwn i ddim yn gweld y llyfr yn anodd i’w ddarllen o gwbl, ac ar gyfer y geiriau newydd roedd yr eirfa ar bob tudalen yn ddefnyddiol iawn. Os dych chi eisiau llyfr y gallwch droi ato am hanner awr yn ddidrafferth – dyma’r llyfr i chi. Byddwn i’n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau rhywbeth ychydig bach yn wahanol i bopeth arall sydd ar gael.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821143331190,"sku":"9781912261437","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912261437_11d605c2-82e9-4eb0-b495-3c480330d351.jpg?v=1790365009","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-amdani-trwy-r-ffenestri-9781912261437","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}