{"product_id":"cyfres-amdani-samsara-9781784616151","title":"Cyfres Amdani: Samsara","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Mae Sam yn gaeth yn y corff anghywir ac mae arno awydd i newid rhyw. Wrth ymdrin â'r pwnc sensitif hwn gwelir rhwystredigaeth y cymeriad ac ymateb y bobl sydd agosaf ato.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA book for Welsh Learners, Foundation Level. Sam feels confined in the wrong body and wishes to change sex. The book deals with a sensitive subject as we follow the main character's frustration and the response of those closest to him.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784616151\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784616151\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Amdani: Samsara\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Sonia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-08-06\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e66 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 150 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Sonia Edwards yn enillydd Llyfr y Flwyddyn ym 1996, a Medal Ryddiaith 1999 a 2017. Bu'n athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn ymddeol yn gynnar i sgwennu'n llawn amser.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Amdani yn gyfres newydd sbon i ddysgwyr Cymraeg ac yn mynd i'r afael â themâu’r byd modern. Ar gyfer lefel Sylfaen mae Samsara ac yn sicr, mae hi’n enghraifft lwyddiannus, wrth i ni ddilyn stori Sam sydd yn gaeth yn ei gorff ei hun ac yn ysu i fod yn ddynes. Yn y nofel, mae pob pennod o safbwynt Sam a'r bobl o'i gwmpas ac felly rydyn ni'n gweld sut mae pob un cymeriad yn dygymod â datgeliad Sam. O'r dechrau pan mae Sam yn eistedd mewn caffi, mae'n amlwg ei fod o ofn cariad ac ofn caru. Y person agosaf yn y byd i Sam ydi ei chwaer. Mae'r ddau hyd yn oed yn byw gyda'i gilydd ac wedi helpu ei gilydd trwy boen teuluol, ond mae'r berthynas hon ar fin rhwygo. Mae Sam yn athro yn yr ysgol ac wrth iddo wynebu staff yn ogystal â'r plant a phawb yn sylwi ar ei arferion merchetaidd, does dim troi'n ôl. Wrth i Sam geisio ymdopi, mae pob perthynas yn ei fywyd yn cael eu profi i'r eithaf. Yma, mae Sonia Edwards wedi creu cymeriadau real ar y naill law, yn dangos pa mor agos ydi Sam at y bobl yn ei fywyd, ond hefyd yn dangos unigrwydd ofnadwy wrth i Sam geisio byw yn ei gorff ei hun. Pont ydi lefel Sylfaen – rhwng adnabod patrymau iaith defnyddiol yn dda a magu hyder i fentro go iawn i dir siaradwyr iaith gyntaf – ac mae Sonia Edwards wedi llwyddo gyda'r nofel hon. Dydi'r darllenydd ddim yn gallu dweud bod hon yn nofel i ‘ddysgwyr yn unig’ ac mae hynny'n rhywbeth i'w ganmol. Mae'r brawddegau yn fyr heb fod yn hirwyntog a'r eirfa yn help ar bob tudalen. Mae yna gymysgedd o heriau a phatrymau iaith syml yn y nofel hon i chi allu ei mwynhau, ac yn fwy na dim, mae'r stori yn gredadwy. Pan mae rhywun yn dweud 'themâu cyfoes', mae'r storïau weithiau yn gallu bod yn ystrydebol, ond ddim yn y nofel hon. Fel rhywun sy'n darllen trwy'r amser er mwyn ymarfer ieithoedd, deallaf ei bod yn bwysig i ddysgwyr iaith beidio â bod yn gaeth i lyfrau 'dysgwyr yn unig' ac i blymio i'w canol, cymryd eu hamser i'w darllen, a mwynhau'r broses o ddysgu geiriau a phatrymau newydd. Yn sicr, mae digon yn y nofel hon i deimlo'n gyffyrddus ac i deimlo her.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819982459254,"sku":"9781784616151","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784616151_a19a1758-b8db-461e-8fac-f763d586ed13.jpg?v=1790354172","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-amdani-samsara-9781784616151","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}