{"product_id":"cyfres-alun-yr-arth-alun-y-mor-leidr-9780862437909","title":"Cyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori fywiog arall wedi ei darlunio'n lliwgar am helyntion Alun yr arth direidus wrth iddo gael bath; i blant dan 7 oed. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAnother colourfully illustrated, lively story, about the antics of Alun the mischievous bear as he takes a bath; for children aged under 7 years. First published in 2005.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780862437909\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780862437909\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyfres Alun yr Arth: Alun y Môr-Leidr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTomos, Morgan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-02-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e24 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e209 × 200 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFor babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'r Lolfa newydd gyhoeddi'r chweched stori am Alun yr Arth. Y tro yma mae'r arth direidus yn troi'n fôr-leidr. Morgan Tomos, cynrychiolydd gwerthiant gyda'r Lolfa, yw awdur y stori a fe hefyd sydd wedi darlunio'r lluniau a chreu'r cymeriadau. Mae ei brofiadau fel gwerthwr llyfrau yn amlwg yn y stori yma gan fod rhan fwyaf o'r stori wedi ei lleoli mewn siop lyfrau sy'n gwerthu llawer o lyfrau'r Lolfa. Mae Alun yr Arth wedi cael llond bol ar chwarae gyda theganau, ac mae'n cael ei lusgo i siop lyfrau. Ar y dechrau, mae'n troi ei drwyn ar lyfrau ond mae'n cael gafael ar lyfr ar fôr-ladron Cymru. Caiff ei hudo gan y llyfr, ac wrth ddarllen y storïau am Harri Morgan a Barti Ddu mae'n dychmygu ei fod e'n fôr-leidr - Capten Alun Wyllt! Wrth ddychmygu ei helyntion yn ymladd ar y môr mae'n chwalu'r siop lyfrau. Tuag at ddiwedd y llyfr daw'n amlwg i Alun bod llawer o sbort i gael wrth ddarllen llyfrau a drannoeth mae'n mynd yn ôl i'r siop i brynu rhagor o lyfrau. Dyma'r chweched gyfrol yn y gyfres o lyfrau stori a llun i blant bach, ac er mai stori syml iawn yw hi, caiff neges pwysigrwydd darllen ei chyfleu yn gryf iawn, neges sydd yn amlwg yn agos at galon Morgan fel awdur a gwerthwr llyfrau a thad i ddau fachgen ifanc. Dywedodd Morgan, \"Pan ofynnodd Ann a Maldwyn, perchnogion Siop y Bont ym Mhontypridd, am stori'n ymwneud â siop lyfrau, bachais ar y cyfle gan gyfuno stori am siop lyfrau gyda stori'r môr-ladron.\" Mae cyfres Alun yr Arth wedi cael ei ganmol gan rieni a phlant fel ei gilydd. Mewn Adroddiad gan Banel Cloriannu ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru disgrifiwyd y llyfr fel, \". . . enghraifft arbennig o lyfr lle'r oedd yr holl elfennau yn cydweithio'n dda - stori ddarllenadwy, testun o faint cyfforddus, a lluniau addas a deniadol.\" Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa, \"Braf gweld cyfres wreiddiol fel hon yn ffynnu yn wyneb yr holl addasiadau sy'n boddi'r farchnad. Gobeithio bydd rhieni a phlant yn mynd ati i ddilyn esiampl Alun yr Arth i brynu a mwynhau llyfrau gwreiddiol Cymraeg.\"\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819049128310,"sku":"9780862437909","price":2.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780862437909_4acd9201-7fe4-4239-a886-d87e12970fca.jpg?v=1790353007","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cyfres-alun-yr-arth-alun-y-mor-leidr-9780862437909","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}