{"product_id":"crys-rhif-saith-y-9781781121443","title":"Crys Rhif Saith, Y","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePêl-droed ydy holl fywyd Carwyn! Mae cael ymuno ag Academi Man U yn gwireddu breuddwyd iddo, ond mae ganddo lawer i'w ddysgu yno. Yn ffodus, mae help ar gael - gan ei arwyr pêl-droed. Ac mae pob un yn gwisgo'r Crys Rhif 7. Ond a fydd hynny'n ddigon iddo lwyddo ar y lefel uchaf? (OD9+OC10+)\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFootball is Jimmy's life! When he gets into the Man U Academy, it's a dream come true - but he still has lots to learn. Lucky for him, he's got help ... his football heroes. They all have one thing in common - the Number 7 Shirt. Will Jimmy win now he's got all the help he needs?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781781121443\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781781121443\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCrys Rhif Saith, Y\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGibbons, Alan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOut of print\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAllan o brint\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-07-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBarrington Stoke Ltd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Gordon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSotirovski, Aleksandar\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e56 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e197 × 130 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma lyfr sy’n adrodd hanes Carwyn, bachgen ifanc sy’n cael ei dderbyn fel aelod o Academi Manchester United ar gyfer pêl-droedwyr ifanc. Rydym yn dilyn ei hynt a’i helynt o’r cyfnod pan oedd yn chwaraewr ifanc i’w dîm lleol, Cefn Einion, nes ei fod yn bedair ar ddeg oed ac yn aelod blaenllaw o dîm yr Academi sy’n curo tîm Bayern Munich mewn cystadleuaeth ryngwladol. Crys rhif saith y mae Carwyn yn ei wisgo, a thrwy gydol y gyfrol mae Carwyn yn ymwneud â chwaraewyr eraill sydd wedi bod yn aelodau o dîm Manchester United ac sydd, fel yntau, wedi gwisgo’r crys rhif saith. Mae’r cyw pêl-droediwr yn gofyn am gyngor gan George Best, Bryan Robson, Eric Cantona, David Beckham a Cristiano Ronaldo, a chaiff atebion i’w ymholiadau gan y chwaraewyr hyn. Cynhwysir hefyd dudalen o ffeithiau am bob un o enwogion y crys rhif saith. Er ein bod ni i gyd, er enghraifft, yn gyfarwydd â helyntion David Beckham ar y cae pêl-droed (ac oddi arno), faint ohonoch a wyddai mai ef ydi’r unig chwaraewr o Sais i chwarae mewn tair cystadleuaeth Cwpan y Byd? A faint ohonoch a wyddai mai Cristiano Ronaldo sgoriodd y gôl a olygodd bod cyfanswm goliau Manchester United yn Uwchgyngrair Lloegr yn cyrraedd 1000 yn 2005? Mae’r llyfr wedi ei anelu at ddarllenwyd 9–11 oed. Mae digonedd o luniau syml ond graffig eu harddull ynddo a dyw’r darllenydd mwyaf anfoddog ddim yn debygol o ddiflasu ar y gyfrol. Mae’n gymysgedd atyniadol o stori ac o lyfr chwaraeon, ac yn cynnig digon o gyfleoedd i godi chwilfrydedd ar gyfer darllen pellach, neu fel man cychwyn ar gyfer llunio darn o waith dosbarth neu brosiect.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819425436022,"sku":"9781781121443","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781781121443.jpg?v=1790350046","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/crys-rhif-saith-y-9781781121443","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}