{"product_id":"criw-r-coed-a-r-gwenyn-coll-9781800996090","title":"Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'r wenynen yn drist. Mae hi wedi colli ei ffrindiau i gyd, felly mae'n gofyn i Griw'r Coed - Gwdi-Hw, Carwww, Mwyalchen, Eryr a Chwim yr Eog - am eu help. Llyfr lliwgar a thestun hwyliog sy'n dysgu gwers bwysig am yr amgylchedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe bee is sad. She has lost all her friends, so she asks the forest crew - Owl, Deer, Blackbird, Eagle and the swift Salmon - for their help. A lively text with colour illustrations that provides timely advice about the environment.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800996090\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800996090\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCriw'r Coed a'r Gwenyn Coll\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGlyn, Carys Haf\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-06-25\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJên, Ruth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e228 × 232 mm; depth 5 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r amgylchedd ac effaith andwyol dynoliaeth arno yn dipyn o bwnc llosg ers rhai blynyddoedd bellach. Mae’n bwnc, wrth gwrs, sy’n effeithio ar bawb felly mae’n braf gweld llyfr stori-a-llun ar gyfer plant ifanc yn mynd i’r afael â’r pwnc hollbwysig hwn, a hynny mewn modd hynod drawiadol a lliwgar. Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll yw llyfr gwreiddiol cyntaf Carys Haf Glyn, un sydd â’i bryd ar feithrin cariad plant at lyfrau. Mae’r bartneriaeth rhwng ei geiriau hi a lluniau blodeuog hynod a digon annisgwyl Ruth Jên – o gofio arddull unigryw arferol yr arlunydd o Dal-y-bont – yn creu cyfanwaith trawiadol. Stori am griw o anifeiliaid arbennig iawn sydd yma – criw sy’n cael ei adnabod fel Criw’r Coed, gan gynnwys Gwdi-Hw, Carwww, Mwyalchen, Eryr ac eog o’r enw Chwim. Yn ôl y sôn, nhw yw anifeiliaid hynaf y byd, a’u gwaith yw amddiffyn byd natur hyd eithaf eu gallu. Ar ddechrau’r stori, lladd amser y maen nhw wrth ddisgwyl am gyfle i gael helpu rhyw anifail mewn trybini. Ond ymhen hir a hwyr, daw galw am eu gwasanaeth yng Nghymru, wrth i wenynen fach ddod ar neges i geisio eu cymorth i ddod o hyd i’w ffrindiau, sef y gwenyn eraill, sydd wedi diflannu. A dyna ddechrau ar antur wrth i Griw’r Coed hel eu pac am Gymru i geisio dod o hyd i’r gwenyn. Daw cyfle wedyn i’r awdur dynnu sylw at bwysigrwydd gwenyn o safbwynt byd natur, a maint y golled pe baent yn diflannu’n llwyr o’n bywydau. Ond yn hytrach na bod y pwnc yn cael ei gyflwyno mewn modd trwm a llethol, mae yma gryn dipyn o hiwmor o safbwynt y cymeriadu a’r lluniau, ac mae'r cyfan yn sicrhau fod hwn yn llyfr apelgar. O ran diwyg, mae’r gyfrol wedi ei gosod yn hyfryd, gydag amrywiaeth ym maint y ffont er mwyn pwyslais fan hyn a fan draw, gan ei gwneud hi’n haws i unrhyw oedolyn gynnal diddordeb plentyn wrth ddarllen yn uchel. Ceir yma hefyd gyfuniad o ryddiaith, deialog ac ambell bennill mewn mydr ac odl, sy’n fodd o yrru’r stori yn ei blaen yn hyfryd. Mae’r geiriau a’r gwaith celf yn eich denu i droi i’r dudalen nesaf yn ddigon diymdrech, ac mae’r cyfuniad o luniau prysur a thawel yn gwneud hon yn gyfrol hynod ddeniadol. Dyma stori gyfoes a chynnes dros ben, a chyfrol werth ei phrynu pe bai ond am y llun crafog ar y dudalen olaf!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820335468918,"sku":"9781800996090","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800996090_ccb4ade4-e33f-4899-8889-735cddaa32f0.jpg?v=1790355525","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/criw-r-coed-a-r-gwenyn-coll-9781800996090","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}