{"product_id":"coeden-cadi-9781784612252","title":"Coeden Cadi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Cadi'n hoffi dringo coed, ond un diwrnod caiff ei chwythu i Wlad yr Enfys lle mae hi'n gorfod dysgu gwers bwysig. Mae stori arbennig yr awdures boblogaidd Bethan Gwanas a lluniau hyfryd Janet Samuel yn addas ar gyfer plant 5-8 oed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCadi loves climbing trees, but one day she gets blown away to Rainbow Land and has to learn a valuable lesson. This special story by popular author Bethan Gwanas with lovely illustrations by Janet Samuel is suitable for children aged 5-8 years old.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784612252\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784612252\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCoeden Cadi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwanas, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-11-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSamuel, Janet\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e44 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 210 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Bethan Gwanas yn awdur profiadol ac wedi ennill nifer o wobryon ac anrhydeddau am ei gwaith ysgrifennu i blant 9+, i'r arddegau ac i oedolion. Dyma ei llyfr cyntaf ar gyfer plant bach.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBethan Gwanas is an acclaimed author, having won several awards and honours for her writing for children aged 9+, young people and adults. This is her first book for young children.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma stori wreiddiol ar gyfer plant sydd wedi gwirioni ar hud a lledrith. Mae Cadi yn ein tywys i fyd y tylwyth teg, y picsis a'r corachod, creaduriaid sydd yn brysur iawn yn gofalu am yr enfys ac yn paratoi'r tywydd. Y picsis a'r corachod drwg sydd yn gorfod torri plu eira o hyd. Ond nid o fwriad yr aeth Cadi i ganol yr enfys – damwain oedd hynny. Roedd y ferch fach yn mwynhau dringo coed a siglo ’nôl ac ymlaen ar frig un goeden arbennig. Nid oedd yn gwrando dim ar ei mam a oedd yn poeni amdani. Ond siglodd gymaint ar y goeden nes cael ei thaflu fel sach o datws yn uchel i'r awyr gan lanio ar yr enfys. Mae'r cyfan yn arwain at wrthdaro efo brenhines y tylwyth teg a hithau yn dysgu gwers fach syml i Cadi a fyddai'n newid ei hagwedd at bopeth. Mae'r foeswers fach yma yn llawn cymeriadau lliwgar a digwyddiadau difyr y gall plant uniaethu â nhw. Ceir lluniau addas mewn arddull digon smala gan Janet Samuel ac y mae'r stori a'r lluniau yn creu cyfrol ddeniadol a darllenadwy. Mae Cadi yn ferch fach benderfynol a digon drygionus i apelio at y darllenydd, ond yn ddigon doniol ac agos atoch i beri i rywun wirioni ar ei chwmni hefyd. Cyfrol i'w chroesawu yw Coeden Cadi .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819855909238,"sku":"9781784612252","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784612252_a8ddeb20-fabe-4a7b-b735-5a71a5e083a2.jpg?v=1790353954","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/coeden-cadi-9781784612252","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}