{"product_id":"clasuron-honno-cyfrinachau-9781912905416","title":"Clasuron Honno: Cyfrinachau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNod y llyfr hwn yn y gyfres Clasuron Cymraeg Honno yw cyflwyno i'r cyhoedd nofel anghyhoeddedig Eluned Phillips, 'Cyfrinachau', ynghyd â'r gerdd a ddaeth yn ail i'w cherdd arobryn hi ei hun ar gyfer cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1967.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis title in the series Clasuron Cymraeg Honno is the first publication of an unpublished novel by Eluned Phillips, 'Cyfrinachau', together with the poem placed second to her prizewinning poem in the 1969 National Eisteddfod Crown competition.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912905416\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912905416\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClasuron Honno: Cyfrinachau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePhillips, Eluned\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-07-08\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHonno\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eElfyn, Menna\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e176 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e123 × 186 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn 2018, pan greodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru restr o 100 o Fenywod Cymru i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, yr oedd enw Eluned Phillips (1914-2009), o bentref Cenarth yn ne Ceredigion, ymhlith yr hanner cant o fenywod o'r gorffennol a ddewiswyd oherwydd ei bod wedi cael ‘cryn effaith ar fywyd yng Nghymru'. Clodforwyd hi gan y Rhwydwaith fel 'yr unig fenyw i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith', ond gwyddom erbyn hyn ei bod hefyd wedi ysgrifennu nifer o gerddi, dramâu a nofelau na chafodd eu cyhoeddi erioed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel yw hon sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, yn seiliedig ar berthynas Eluned Phillips yr awdur â Per, Llydäwr ifanc y cyfarfu ag ef pan oedd yn byw ym Mharis ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Ni wyddys faint o’r digwyddiadau sy’n wir a faint sy’n gynnyrch creadigrwydd a dychymyg yr awdur, ond gwyddom ei bod wedi rhoi lloches i nifer o Lydawyr a gyhuddwyd o gydweithio gyda’r Almaenwyr yn ei chartref yng Nghenarth. Mae Yann ar gychwyn y nofel yn garcharor yn Llydaw am iddo, yn rhinwedd ei swydd fel newyddiadurwr, gael ei weld yn cymdeithasu ag Almaenwr. Mae Tegwen, ei gariad, wedi dychwelyd at ei mam i’w fferm fechan yng ngorllewin Cymru. Un dydd daw André, ffrind Yann â’r newydd trychinebus bod Yann mewn carchar yn Llydaw yn aros i gael ei ddedfrydu fel bradwr a’i ddienyddio. O hyn ymlaen mae pethau’n symud yn gyflym gyda Tegwen ac André’n dychwelyd i Lydaw i gynllunio sut i helpu Yann i ffoi o’r carchar. Cyn diwedd y stori lawn cariad a chasineb, teyrngarwch a brad, cenfigen a gwewyr, awn o Lydaw i Gymru i Iwerddon a’r America. Dyma gyfres o brofiadau sy’n codi gwallt y pen, ac o ddiddordeb arbennig hyd heddiw, gan i gymaint o Lydawyr mewn bywyd go iawn ddioddef yr un fath o erledigaeth. Dyma drysor o glasur, ac yn dilyn y nofel cyhoeddir am y tro cyntaf erioed drysor arall, sef y gerdd ‘Corlannau Bywyd: La Môme Piaf’ (Llwyd Bach y Baw) am y gantores Ffrengig Edith Piaf yr oedd Eluned Phillips yn ei hadnabod yn dda, ygerdd a ddaeth yn ail i’w cherdd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821160960374,"sku":"9781912905416","price":10.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912905416_75d117bf-4660-424c-a76f-81b83c057591.jpg?v=1790365577","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/clasuron-honno-cyfrinachau-9781912905416","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}