{"product_id":"cicio-r-bar-9781784614157","title":"Cicio'r Bar","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTrydedd nofel yr awdures Sioned Wiliam, sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Mae'r nofel lawn hiwmor yn dilyn poblogrwydd y ddwy nofel gyntaf, Dal i Fynd a Chwynnu . Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd ond nid oes angen i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf i fwynhau hiwmor a dychan y stori newydd. Mae'n sefyll ar ei phen ei hun.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTV comedy director Sioned Wiliam's third humorous novel, following the popular Dal i Fynd and Chwynnu . It revisits characters from Dal i Fynd but may be enjoyed on its own merit.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784614157\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784614157\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCicio'r Bar\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWiliam, Sioned\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2023-05-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e198 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 × 135 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Sioned Wiliam yn byw yn Llundain, ond mae'n enw adnabyddus iawn ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i’r prif rwydweithiau teledu Fe’i henwebwyd am wobr BAFTA Lloegr dair gwaith fel cynhyrchydd ac enillodd y British Comedy Award a’r Rhosyn Efydd ym Montreux am Big Train ym 1999. Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV, gan gomisiynu nifer fawr o ffilmiau a chyfresi comedi gan gynnwys Harry Hill’s Sketch Show a Cold Feet .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’n gyfle i ddod i nabod Anwen, Delyth a Nia, cyn i un ddod yn fam brysur, un yn ddynes fusnes lwyddiannus a'r llall yn wraig weinidog gydwybodol. Ac fe fydd yn gyfle i baentio darlun o Aber yn yr 80au a straeon gwleidyddol mawr y cyfnod. Fe welwn y tri chymeriad yn eu hieuenctid – yn llawn gobeithion ac egwyddorion. Ynghanol y miri fe fydd sawl tro annisgwyl, ac ymgais i bortreadu bywyd yn ei gyfanrwydd, yr ysgafn a’r dwys, fel sy’n ddisgwyliedig gan yr awdures brofiadol hon. Dyma drydedd nofel Sioned, yn dilyn llwyddiant Dal i Fynd sydd wedi ei haddasu'n ffilm Nadolig gan S4C. Yng ngeiriau Bethan Gwanas am y llyfr hwnnw, ‘Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.’\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819910140278,"sku":"9781784614157","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784614157_f509afe3-16f2-4362-8baf-039c7505d755.jpg?v=1790354050","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cicio-r-bar-9781784614157","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}