{"product_id":"chwedlau-cymru-9781804162668","title":"Chwedlau Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMwynhewch dreftadaeth gyfoethog Cymru o chwedlau a straeon tylwyth teg, wedi'u hail-adrodd ar gyfer darllenwyr ifanc. O ddreigiau hudolus Cymru sy'n dinistrio castell nos ar ôl nos, i dywysoges wedi'i gwneud allan o flodau a thrafferthion plentyn cyfnewid; o ffyddlondeb y ci hela Gelert, i fachgen sy'n holi cwestiynau ac yn tyfu i fod y bardd Cymreig mwyaf adnabyddus erioed..\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eEnjoy Wales's rich heritage of myth and fairy tales, re-told for young readers. From magical Welsh dragons that destroy a castle night after night, to a princess made out of flowers and a fairy changeling bother; from loyal hunting hound Gelert, to a boy who asks questions and goes on to become the greatest Welsh bard ever known...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781804162668\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781804162668\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eChwedlau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFayers, Claire\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-04-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Siân\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e240 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e141 × 204 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C171272\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae pawb yn gyfarwydd â’r syniad o Gymru fel gwlad y gân, ond dyma gyfrol hyfryd a hylaw sy’n dangos hefyd, fel y dywed yr awdur ei hun, mai Cymru yw gwlad y chwedlau a bod rheini i’w gweld a’u teimlo o’n cwmpas ym mhob man. Er bod diwyg ac edrychiad nofel i Chwedlau Cymru a’i Straeon Hud a Lledrith , addasiad y ddewines geiriau, Siân Lewis, o waith Claire Fayers sydd yma. Mae'r gyfrol yn gasgliad cynhwysfawr o bedair chwedl ar bymtheg o straeon o bob cwr o chornel o Gymru a’r Byd Arall. O’r cyfarwydd, megis chwedlau Blodeuwedd, Pwyll a Rhiannon a Gelert i’r mwy anghyfarwydd, yn cynnwys straeon 'Y Bachgen a Ofynnai Gwestiynau', 'Pwca yn y Pwll Copr' a 'Fy Mrawd, y Tylwythyn Teg', mae yna wir gyfoeth o fewn cloriau’r gyfrol hon. Cawn ein hatgoffa o helyntion Gwrtheyrn a pham mai draig sydd ar faner Cymru, hanes Cantre’r Gwaelod, ymweliad y diafol ag ardal Pontarfynach a’n cyflwyno i’r dewin Myrddin a’r bardd enwog Taliesin, heb sôn am anturiaethau’r o fyd y Mabinogi a’r tylwyth teg drygionus a digon creulon ar adegau. Oes, mae yna rywbeth i bawb. Ond yr hyn sy’n dod â hud a lledrith ychwanegol i’r gyfrol hon yw’r modd dychmygus y mae’r straeon yn cael eu hadrodd. Mae’r dawn dweud a’r diniweidrwydd yn amlwg. Dyna i chi’r cyfeiriad at Morgan Methu-canu yn y stori 'Telyn y Tywyth Teg' oedd yn ysu am gyrraedd y brig mewn ym mhopeth, yn cynnwys canu, er mor anobeithiol yr oedd e am wneud hynny: ‘Fel y gwyddom ni, Cymru yw Gwlad y Gân. Mae’n enwog am ei miwsig ac mae Cymro sy’n methu canu fe morfil sy’n methu nofio.’ Mae’r ysgrifennu’n agos atoch iawn ac yn llifo’n rhwydd ac yn naturiol, gan eich tynnu i mewn i fyd bob stori a’ch gafael yn dynn. Cewch eich arwain i mewn i bob stori gan gyflwyniad bach i’r hyn sydd i ddilyn, gan ei gwneud hi’n hawdd i ddewis a dethol pa stori i’w darllen nesaf. Cyfrol i blant yw hon, wrth gwrs, ond does dim amheuaeth y bydd bob un o’r straeon o fewn ei chloriau’n apelio at ddarllenwyr o bob oed ac yn cynnig ysgogiad pellach i ddychwelyd at rai o’r testunau gwreiddiol. Mae’n siŵr hefyd fod yna straeon hud a lledrith tebyg i’w cael yn eich ardal chi, a dyma un o’r cyfrolau hynny a allai fod yn allwedd i gynnau eich awydd i chwilio am rai o’r rheini unwaith eto. Heb os, dyma gyfrol sy’n werth bob ceiniog ac yn anodd iawn ei rhoi i lawr. Mynnwch eich copi chi nawr.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis book includes 18 traditional favourites and classic myths.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820474732918,"sku":"9781804162668","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781804162668_350668a0-6745-493c-b395-af4015850632.jpg?v=1790357281","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/chwedlau-cymru-9781804162668","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}