{"product_id":"cerddi-r-plant-detholiad-9781785622915","title":"Cerddi'r Plant - Detholiad","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyhoeddwyd cyfrol Cerddi'r Plant gan Waldo Williams ac E. Llwyd Williams am y tro cyntaf ym 1936 gan Wasg Aberystwyth. Mae'r argraffiad newydd hwn yn dathlu'r cyhoeddiad gwreiddiol trwy uwcholeuo 29 o'r cerddi gorau. Mae 16 cerdd gan Waldo Williams, gan gynnwys 'Byd yr Aderyn Bach' nad oedd yn y llyfr gwreiddiol, a 13 o gerddi gan E. Llwyd Williams.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCerddi'r Plant by Waldo Williams and E. Llwyd Williams was first published in 1936 by Gwasg Aberystwyth. This new edition celebrates the original publication by highlighting 29 of the best poems, with 16 by Waldo Williams, including 'Byd yr Aderyn Bach' which was not in the original book, and 13 poems by E. Llwyd Williams.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785622915\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785622915\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCerddi'r Plant - Detholiad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Waldo; Williams, E. Llwyd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-09-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHopwood, Mererid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorris, D.J.\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e56 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 216 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma drysor. Wir i chi, rydw i’n teimlo mod i wedi gafael mewn rhywbeth gwerthfawr, mewn cyfrol sy’n perthyn i mi, a dwi’n sicr y gwnewch chithau deimlo’r un peth. Mae rhagymadrodd Mererid Hopwood yn fendigedig. Nid yn unig mae’n eich tynnu chi’n syth i naws y gyfrol ac yn gwneud i chi deimlo fel plentyn sydd ar fin cael gwybod cyfrinach, ond mae hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau annwyl i chi am sut i fynd ati i fwynhau darllen cyfrol o gerddi, beth bynnag yw’ch oedran. Ond beth yw naws y gyfrol? Rhywbeth hen ffasiwn yn sicr, ond nid rhywbeth negyddol mo hynny, hen ffasiwn hyfryd sy’n rhyfeddol o gartrefol yn yr oes hon. Mae cerddi Waldo Williams ac E. Llwyd Williams wedi eu gosod bob yn ail sy’n rhoi egni yn y daith wrth ddarllen o glawr i glawr. Rydych chi’n dod i adnabod lleisiau’r beirdd. Maen nhw’n gerddi amrywiol o ran eu cynnwys ond fe deimlwch chi fwynhad E. Llwyd Williams wrth ail-greu synau chwareus byd plentyn. Yna, fe gewch chi’ch llorio gan ddelweddu syml ond treiddgar Waldo. Yr hyn sy’n gweithio mor hynod yw’r ffordd mae’r gyfrol yn croesi cenedlaethau. Mae ambell gerdd fel ‘Gweithio’ gan Waldo yn mynd i deimlo’n ddieithr i blant yr oes yma, ond mi ddaw â phlentyn mewnol aelod hynaf y teulu i’r wyneb, dwi’n siŵr. Ro’n i’n dychmygu fy hun, fy mam a fy nhaid yn gallu cyd-ddarllen y gyfrol yma gyda fy merch fach dros y blynyddoedd, a phawb yn teimlo eu bod nhw’n perthyn ac yn uniaethu â hi. Mae ’na eirfa a bywgraffiadau’r beirdd a’r arlunydd yng nghefn y gyfrol. Er nad o’n i’n teimlo mod i angen eu darllen yn syth, ro’n i’n falch eu bod nhw yno. Dwi’n teimlo y bydd y gyfrol yma’n tyfu efo’n teulu bach ni ac y bydd hi’n cael ei bodio droeon dros y blynyddoedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820142039414,"sku":"9781785622915","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785622915_400bc05c-5bcf-468a-9a7b-dd3d46fd7cec.jpg?v=1790354576","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cerddi-r-plant-detholiad-9781785622915","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}