{"product_id":"cawod-lwch-9781845278045","title":"Cawod Lwch","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad newydd o farddoniaeth gan y bardd Rhys Iorwerth - cerddi'r tridegau, cerddi newid byd - sydd wedi dychwelyd i'w fro enedigol yng Nghaernarfon, wedi pymtheg mlynedd yng Nghaerdydd. 'Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân' sydd yma, gyda ffotograffau Geraint Thomas yn lliwio'r cyfan.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA new collection of the poetry of Rhys Iorwerth - poems formed after his return to his home town of Caernarfon following 15 years in Cardiff. The poems, illuminated with photography by Geraint Thomas, present a mix of the sunny and stormy, the lighthearted and profound.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845278045\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845278045\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCawod Lwch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eIorwerth, Rhys\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-11-24\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eThomas, Geraint\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e122 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 215 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGeraint Thomas Ffotograffydd proffesiynol yn gweithio o'i oriel yn Stryd y Plas, Caernarfon ydi Geraint. Yno, mae'n arddangos amrywiaeth eang o'i dirluniau o Eryri a'r glannau. Ond mae'i gefndir ym maes ffilm a theledu yn ei arwain at hoffter o ddweud stori yn ei waith hefyd. Bydd yn canolbwyntio ar grisialu'r eiliad a'i rhoi ar gof a chadw. Oherwydd hynny, mae'i luniau’n cynnig eu llwybrau eu hunain ochr yn ochr â cherddi Rhys.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSaith mlynedd yn ôl, cyhoeddodd Rhys Iorwerth ei gyfrol gyntaf – Un Stribedyn Bach. Canu gŵr yn ei ugeiniau oedd y casgliad hwnnw. Bellach, wedi pymtheg mlynedd yn y brifddinas, mae wedi gadael Caerdydd ac wedi symud yn ôl i Gaernarfon, lle mae'n awdur ac yn gyfieithydd llawrydd. Mae hefyd wedi priodi a chael dau o blant. Dyma ddeunydd nifer o gerddi'r casgliad hwn – cerddi'r tridegau, cerddi newid byd. Mae'n gweld bod pethau wedi newid ar Gymru yn yr un cyfnod – mae'r cymunedau Cymraeg dan fwy o bwysau ac mae gwleidyddion Llundeinig a'r argyfwng hinsawdd yn rhoi min i’w linellau. Cafwyd cyfnod coffáu'r Rhyfel Mawr; gwelwyd twf enfawr mewn technoleg rithwir; digwyddodd Brexit a daeth pandemig. Dathlwyd heulwen yr Ewros yn 2016. Plethiad o'r personol a'r cymdeithasol sydd yn y cerddi hyn. Plethiad o'r heulog a'r drycinog, y dwys a'r ysgafn, y mawr a'r mân. Ym mhob cerdd ac ym mhob cywair, mae'r ddawn wedi'i hogi'n fain wrth i eiriau droi'n lluniau cofiadwy. Dyma bencerdd ar sawl mesur ac mae'r amrywiaeth sydd ganddo i'w gynnig yn dal hwyl, her a hagrwch ein dyddiau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820786454902,"sku":"9781845278045","price":9.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845278045_f7ae41c5-79e5-41c8-afb7-acad5a45ffd2.jpg?v=1790360471","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cawod-lwch-9781845278045","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}