{"product_id":"cath-y-siop-lyfrau-9781784231781","title":"Cath y Siop Lyfrau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCroeso i siop lyfrau HYNOD IAWN! Mae'n lle llawn straeon, sawl antur ac, wrth gwrs, dyma gartref cath go arbennig. Mae'n stori am sut y daeth y Siop Llyfrau Plant yn lle prysur, llawn egni, diolch i deulu o gathod, cynllun gwych, a silffoedd di-rif o lyfrau. Dewch i mewn! Addasiad Cymraeg o The Bookshop Cat .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWelcome to a VERY UNUSUAL bookshop for children. It's brimming with stories, adventures and a very special cat! We learn how the Children's Bookshop became a hive of activity and energy, thanks to a family of cats, a great layout and loads of bookshelves. Come in! A Welsh adaptation of The Bookshop Cat .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784231781\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784231781\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCath y Siop Lyfrau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWume, Cindy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-06-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e270 × 228 mm; depth 3 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRhwng y cyfnod clo a phopeth arall, mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner, ac mae’n siŵr fod ’na lawer ohonom sy’n dyheu am gael mynd ar wyliau dramor unwaith eto. Ond er hyn i gyd, rydan ni’n ffodus fod gennym lyfrau anhygoel i’n diddori ni yn y cyfamser – heb orfod gosod troed ar awyren! Mae llyfrau yn bethau rhyfeddol – dim ond darnau o bapur wedi eu rhwymo gyda’i gilydd ydyn nhw, ond eto, mae ganddyn nhw bŵer aruthrol i fynd â chi i unrhyw le yn y byd (a thu hwnt!) Dyna yw neges graidd y llyfr lliwgar a difyr hwn gan artist ifanc o’r enw Cindy Wume o Taiwan. Yn wahanol iawn i aelodau eraill ei theulu, dim ond darllen sy’n mynd â bryd y gath fach ddu sydd yn y stori. Mae hi’n caru llyfrau, a darllen sydd ar ei meddwl ddydd a nos. A dach chi’n gwybod beth? Does ’na ddim o’i le gyda bod yn wahanol. Hyd yn oed os yw eich diddordebau chi’n wahanol i’ch teulu a’ch ffrindiau – dyna sy’n eich gwneud chi’n berson arbennig! Fel llawer o bobl, chwilio mae’r gath fach ddu am ei ‘swydd ddelfrydol’, a thrwy lwc, mae’r siop lyfrau leol yn chwilio am help. Wrth gwrs, nid yw bywyd yn fêl i gyd, ac un diwrnod mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd i’r siop. Ar ôl i’r siop gael ei difetha, bydd rhaid i gath y siop lyfrau a’i chyfaill feddwl am gynllun dyfeisgar i ddod â'r cwsmeriaid a'u bwrlwm yn ôl ... Fe gawn yma gyhoeddiad amserol iawn, mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd i lawer o siopau bach annibynnol, gan gynnwys siopau llyfrau. Dwi ond yn gobeithio y bydd ’na ddiweddglo hapus i siopau bach y stryd fawr yng Nghymru hefyd. Tybiwn y bydd y llyfr yma’n berffaith ar gyfer cyd-ddarllen fel stori amser gwely, ac mae’n llyfr da i ddarllenwyr newydd sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Mae Cath y Siop Lyfrau yn stori annwyl gyda lluniau sydd â gwedd glasurol a thraddodiadol iddynt. Fel y gwelwch, mae nifer o’r tudalennau yn byrlymu â lliw ac yn llawn manylion bach i sylwi arnynt wrth ddarllen. Dyma lyfr sy’n dathlu ein siopau llyfrau ac yn dangos y cyfraniad pwysig y maen nhw’n ei wneud i’n cymunedau, mewn llawer mwy o ffyrdd na gwerthu llyfrau’n unig. Rydym yn diolch o waelod calon i bob un ohonynt am eu gwaith caled yn cadw Cymru’n darllen!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819817505142,"sku":"9781784231781","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784231781_03c9605f-2f5c-43a4-90df-08ffc7481001.jpg?v=1790353761","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cath-y-siop-lyfrau-9781784231781","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}